Emma

Beth oeddech chi'n ei wneud cyn i chi fod yn brentis?


Roeddwn wedi gweithio ym maes adwerthu am tua 30 mlynedd, ar bob lefel gan gynnwys rheoli.


Pam wnaethoch chi benderfynu gwneud cais i fod yn brentis?


Penderfynais newid gyrfa i faes gweinyddu ac roeddwn eisoes wedi dilyn cyrsiau yn fy amser fy hunan. Roedd y brentisiaeth yn caniatáu i mi ennill cymhwyster uwch ynghyd â'r profiad gwaith yr oeddwn i ei angen i ennill yr hyn y mae cwmnïau'n gofyn amdano wrth ymgeisio am swyddi.

Pa gymhwyster ydych chi'n ei wneud?


Rwyf newydd gwblhau QCF/NVQ Lefel 3 mewn Busnes a Gweinyddu fel rhan o'm prentisiaeth. Rwyf hefyd wedi ennill fy Sgiliau Hanfodol mewn Saesneg, Mathemateg a Llythrennedd Digidol.

Ar gyfer pa dîm / gwasanaeth ydych chi'n gweithio?


Ar hyn o bryd, rwy'n gweithio'n llawn amser yn Adran Diogelu Oedolion/Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS). Rwyf wedi bod yn hynod o lwcus yn ystod y brentisiaeth i fod wedi cael y cyfle i weithio mewn amryw o adrannau eraill i ennill mwy o wybodaeth.

Pa fath o bethau ydych chi'n eu gwneud yn eich swydd?


Mae'r tasgau rwy'n eu gwneud yn cynnwys ateb ymholiadau ffôn/e-bost, cymryd cofnodion, llunio adroddiadau, anfonebau, defnyddio gwahanol systemau mewnol i fewnbynnu data a gwybodaeth gyfrinachol, tasgau amrywiol eraill sydd eu hangen a helpu'r ddau dîm hynod o brysur.

Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am fod yn brentis?


Rwyf wedi bod yn lwcus dros ben fy mod i wedi gweithio mewn sawl adran fel rhan o'm prentisiaeth. Rwyf wedi gweithio yn yr adrannau Diogelu/DoLS, Gofal Cartref, Comisiynu a Broceriaeth. Rwyf hefyd wedi helpu gyda rhai tasgau ar gyfer tai ac Iechyd Anifeiliaid. Rwyf wedi mwynhau gweithio yn yr holl adrannau gwahanol, yn un peth oherwydd yr aelodau gwych o'r tîm yr wyf wedi bod yn ffodus i weithio ochr yn ochr â nhw ac mae faint o wybodaeth rwyf wedi'i dysgu ym mhob adran wedi bod yn wych.

Pa gyngor/awgrym gorau fyddech chi'n ei roi i unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais i fod yn brentis?


Byddwn yn argymell i unrhyw un o unrhyw oedran fynd am brentisiaeth. Yn enwedig fi wrth i mi newid gyrfa ar ôl 30 o flynyddoedd. Roedd bod yn lwcus i weithio ym mhob un o'r adrannau amrywiol yn gwneud i mi sylweddoli pa faes gwaith yr hoffwn fod ynddo ar ôl i'r brentisiaeth orffen. Mae wedi gwneud gwyrthiau i'm hyder ac wedi fy ngalluogi i weithio mewn gwahanol adrannau yn dysgu'r holl systemau newydd, gan gwrdd â'r bobl fwyaf cymwynasgar a chefnogol ar hyd y ffordd. Mae'n rhaid i mi sôn yn arbennig am Kerry Halpin, fy mentor a diolch iddi am fod yn gymaint o help i mi. Mae ennill cymwysterau newydd fy oedran i wedi fy herio ac wedi rhoi hwb i'm gwybodaeth, hyder, hunan-barch a chyflogadwyedd. Hefyd, mae Sally Bennett o'r Tîm Dysgu a Datblygu wedi bod ac yn parhau i fod o gymorth mawr i mi drwy gydol siwrnai'r brentisiaeth.

Beth hoffech chi ei wneud ar ôl i chi gwblhau eich prentisiaeth?


Ar hyn o bryd, rwy'n ymgymryd â dyletswyddau uwch swydd Gweinyddwr Cymorth Busnes ym maes Diogelu/DoLS a phan fydd swydd ar gael byddaf yn gwneud cais am swydd o fewn yr Adran.