Cyfleoedd gwaith ar Ddiwrnod Etholiadau

 

Yn ystod etholiadau, mae'r swyddfa etholiadau ar ran y Swyddog Canlyniadau yn cyflogi llawer o staff i weithio gyda ni, er enghraifft:

  • Swyddogion Llywyddu a Chlercod Pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio. Maent yn gyfrifol am gynnal y bleidlais ym mhob gorsaf bleidleisio. Ar ddiwrnod yr etholiad mae'n ofynnol i staff y gorsafoedd pleidleisio weithio o 6am tan ar ôl 10pm heb adael yr orsaf bleidleisio.
  • Byddai staff y cyfrif yn gweithio i gyfri'r pleidleisiau naill ai dros nos ar ôl yr etholiad neu'r diwrnod canlynol

Byddai hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu, a byddwch yn cael cymorth gan staff profiadol.

Gofynion Sylfaenol

Er mwyn ymgymryd â dyletswyddau etholiadau, mae'n rhaid i chi:

  • bod o leiaf 18 mlwydd oed
  • bod â hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig (yn unol â darpariaethau'r Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006)

Ni ddylai'r rhai sy'n cael eu cyflogi i wneud unrhyw un o ddyletswyddau'r etholiad weithio ar ran ymgeisydd nac mewn ymgyrch ar ran unrhyw ymgeisydd.

Graddau Cyflog

Mae graddfeydd cyflog staff etholiadau'n amrywio, a hynny'n dibynnu ar rôl y swydd a'r math o etholiad. Bydd y symiau'n cael eu cadarnhau cyn etholiad.

Sut mae gwneud cais

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio am unrhyw un o'r rolau a restrir, llenwch y Ffurflen Gais.

Pan fydd etholiad yn cael ei gyhoeddi, byddwn yn cysylltu â'r holl staff sydd â diddordeb ac yn gofyn iddynt nodi pryd y byddant ar gael.

Os ydych yn nodi eich bod ar gael, a bod swydd addas ar gael, byddwn yn cysylltu â chi drwy roi Llythyr Penodi ichi.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Swyddfa Etholiadau: gwasanaethauetholiadol@sirgar.gov.uk neu ffoniwch: 01267 228889

Hwb