Jac
Diweddarwyd y dudalen ar: 20/06/2025
Beth oeddet ti’n ei wneud cyn ymgeisio?
Roeddwn i'n gweithio'n rhan-amser yn M&S, a newydd orffen y Chweched Dosbarth. Penderfynais fy mod eisiau dilyn prentisiaeth yn hytrach na mynd i'r brifysgol, gan fy mod yn teimlo y byddai hynny’n rhoi profiad ymarferol i mi ac yn ddechrau da i fy ngyrfa.
Pam wnest ti ymgeisio?
Ymgeisiais i ar gyfer y Cyngor oherwydd roedd yn gyfle gwych i ddechrau fy ngyrfa mewn amgylchedd strwythuredig a chefnogol. Hefyd, i ddatblygu fy sgiliau TG ac i wella fy iaith Gymraeg.
Pa mor hir wyt ti wedi bod yma?
Dwi wedi bod gyda Cyngor Sir Gar ers ychydig dros 5 mis, dechreuais ar 4ydd o Dachwedd 2024.
Ym mha dîm wyt ti’n gweithio?
Dwi’n gweithio gyda'r Tîm Rheolaethau lle dwi’n darparu ystod eang o gefnogaeth i'r Tîm Rheolaethau sy'n darparu cymorth technegol a gweithredol ar gyfer y systemau TG a ddefnyddir yn y Gwasanaethau Refeniw.
Amlinelliad o'r hyn y mae dy swydd yn ei gynnwys.
Mae fy rôl yn cynnwys defnyddio Power BI yn bennaf, sef offeryn sy'n eich galluogi i greu dangosfyrddau rhyngweithiol o ddata Excel a ffynonellau data eraill. Mae'r dangosfyrddau hyn yn helpu i rannu gwybodaeth allweddol gyda thimau eraill, gan roi mewnwelediadau clir iddynt o'r hyn sydd ei angen, neu er enghraifft dwi newydd greu dangosfwrdd ar gyfer y tîm Dyledwyr. Mae'r dangosfwrdd hwn yn caniatáu iddynt weld yr holl ddyled sy'n weddill, trwy ddefnyddio'r dangosfwrdd gallant edrych yn ddyfnach i'r wybodaeth a gweld ble mae'r problemau a pha feysydd sydd angen mwy o sylw.
Sut ydych chi'n dod o hyd i'r cymhwyster Gweinyddwr Busnes?
Rwy'n gweld gwneud fy nghymhwyster yn ddiddorol ac yn bleserus. Rydw i wedi derbyn llawer o gefnogaeth gan fy mentor sy'n fy arwain trwy fy asesiadau, mae hi'n rhoi llawer o wybodaeth sydd ei hangen arnaf ar gyfer arholiadau ac yn fy helpu llawer i fynd trwyddynt.
Faint o'r Gymraeg wyt ti’n ei ddefnyddio yn dy rôl?
Rwy'n defnyddio'r Gymraeg yn rheolaidd yn fy rôl. Enghraifft o hyn yw pan fyddaf yn creu fy dangosfyrddau. Os ydyn nhw ar gyfer y cyhoedd mae angen iddynt fod yn ddwyieithog ac mae’r gallu i siarad Cymraeg yn help mawr i allu cyfieithu'r dangosfyrddau hyn.
Beth yw dy hoff ran o'r swydd?
Fy hoff ran o’r swydd yw gweithio'n agos gyda fy nhîm a gallu gweithio fel tîm, boed ar gyfarfodydd TEAMS neu gyfarfodydd wyneb-wrth-wyneb. Mae'n fy helpu i wella fy hyder wrth siarad â phobl nad wyf wedi cwrdd ag o fewn y Cyngor ac yn fy helpu i ddatblygu perthynas gryfach gyda fy nhîm.
Unrhyw beth arall y gallwch chi feddwl amdano?
Mae popeth rydw i wedi'i brofi hyd yma yn y Cyngor wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae pawb yn garedig ac yn barod i siarad, mae pawb yn barod i'ch helpu chi, ac rwy'n hoffi'r ffaith fy mod i'n gallu siarad Cymraeg gyda rhai o fy nghydweithwyr – mae'n ffordd wych i mi gadw fy sgiliau Cymraeg yn gryf.