Prif Swyddog Gweithredu - Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru
Arwain Trawsnewid Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin Cymru cryfach a mwy cysylltiedig
Ydych chi'n barod i gael effaith barhaol ar Dde-orllewin Cymru? Mae Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru yn chwilio am arweinydd blaengar gyda'r weledigaeth i ymgymryd â’r swydd Prif Swyddog Gweithredu.
Cyflwyniad
Annwyl Ymgeisydd,
Rydyn ni'n falch iawn eich bod yn ystyried dod yn rhan o Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru. Mae ein rhwydwaith o aelodau a swyddogion yn y rhanbarth yn angerddol, yn ymroddedig ac yn falch o chwarae rhan allweddol yn llunio cyfeiriad strategol ynni, trafnidiaeth, cynllunio a defnydd tir ledled y rhanbarth.
Gan weithio'n agos gyda'n partneriaid a'n rhanddeiliaid, rydym wedi ymrwymo i wireddu ein gweledigaeth gyffredin ar gyfer De-orllewin Cymru 2035 - rhanbarth sy'n gydnerth, yn gynaliadwy, yn fentrus, yn uchelgeisiol ac yn ymwybodol o'r hinsawdd.
Mae ein dull cydweithredol, "un tîm" yn sicrhau bod anghenion ein cymunedau yn parhau i fod wrth wraidd pob penderfyniad a wnawn.
Mae Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru yn dwyn ynghyd cynrychiolwyr o bedwar awdurdod lleol - Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot - yn ogystal ag Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Arfordir Penfro a Bannau Brycheiniog. Ochr yn ochr â'n haelodau cyfetholedig ymroddedig a'n ymgynghorwyr o'r sector preifat, rydym yn unedig yn ein hymrwymiad i adeiladu dyfodol gwell i'r rhanbarth.
Rydym yn uchelgeisiol ac yn gefnogol, ac yn grymuso ein gilydd i lwyddo. Rydym yn gweithredu gydag uniondeb, yn gwireddu ein hymrwymiadau, ac yn gwerthfawrogi safbwyntiau amrywiol.
Ynghyd â'r Cyd-bwyllgorau Corfforaethol eraill, rydym yn gweithio tuag at Gymru fwy ffyniannus.
Rydym bellach yn chwilio am Brif Swyddog Gweithredu i ymuno â'n tîm ac arwain y gwaith o gyflawni ein huchelgeisiau strategol.
Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan y cyfle i helpu i lunio dyfodol economaidd De-orllewin Cymru, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Y Cynghorydd Rob Stewart
Cadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru.

Y Cynghorydd Darren Price
Is-gadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforaethol De Orllewin Cymru
Ynglŷn â Chyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru
Mae Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru yn gorff statudol a grëwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Gan ddwyn ynghyd Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Arfordir Penfro a Bannau Brycheiniog, mae'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol ar flaen y gad o ran cydweithredu’n rhanbarthol
Mae Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru yn rhan ganolog o lunio dyfodol y rhanbarth. Mewn cyfnod o drawsnewid economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol aruthrol, rôl y Cyd-bwyllgor Corfforaethol yw newid uchelgeisiau strategol yn weithredoedd ystyrlon sy'n ysgogi ffyniant, cynhwysiant a chynaliadwyedd ar gyfer rhanbarth De-orllewin Cymru.
Mae'r rhanbarth yn cynnwys canolfannau trefol, pwerdai diwydiannol, cymunedau gwledig, prifysgolion o'r radd flaenaf, ac asedau naturiol sydd ag enw da yn rhyngwladol. Sefydlwyd Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru i fanteisio ar y potensial cyfunol hwn trwy alinio awdurdodau lleol, partneriaid a rhanddeiliaid i fynd ar drywydd canlyniadau cyffredin. Mae arweinyddiaeth ranbarthol y Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn seiliedig ar weledigaeth ar gyfer dyfodol economaidd bywiog, sy'n gadarn yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol gyfiawn.
Mae’r Cyd-bwyllgor Corfforaethol wedi llunio tri Amcan Llesiant Corfforaethol i ysgogi'r weledigaeth ar gyfer y rhanbarth, mae'r rhain yn cynnwys;
- Cydweithio i gyflawni'r Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol a'r Strategaeth Ynni Ranbarthol, a thrwy hynny wella llesiant economaidd datgarboneiddio De-orllewin Cymru ar gyfer cenedlaethau dyfodol.
- Llunio Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin Cymru sy'n seiliedig ar gydweithio ac yn galluogi darparu system drafnidiaeth sy'n dda ar gyfer ein cenedlaethau o bobl a chymunedau presennol ac i'r dyfodol, yn dda i'n hamgylchedd ac yn dda i'n heconomi a'n lleoedd (gwledig a threfol).
- Llunio Cynllun Datblygu Strategol cadarn y gellir ei gyflawni, ei gydgysylltu ac sy'n nodweddiadol o ardal De-orllewin Cymru a sefydlwyd drwy ymgysylltu a chydweithio â rhanddeiliaid ac sy'n nodi'n glir beth yw maint a lleoliad twf y dyfodol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae uchelgeisiau’r Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn rhan ganolog o'r prosiectau a'r blaenoriaethau mawr a fydd yn siapio De-orllewin Cymru am genedlaethau. Trwy gyfeirio at y blaenoriaethau hyn yn uniongyrchol, mae'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn dangos sut mae wedi ymrwymo nid yn unig i osod dyheadau ond i gyflawni cynnydd pendant.
Mae'r uchelgais ar gyfer Metro rhanbarthol yn flaenoriaeth flaenllaw. Nid prosiect trafnidiaeth yn unig yw'r Metro; mae'n galluogi datblygu economaidd, symudedd cymdeithasol, a newid amgylcheddol. Dull y Cyd-bwyllgor Corfforaethol yw sicrhau bod y Metro yn cysylltu cymunedau, trefol a gwledig fel ei gilydd, trwy ddarparu opsiynau trafnidiaeth hygyrch, fforddiadwy a chynaliadwy.
Mae’r agweddau allweddol yn cynnwys:
- Datblygu cynllunio trafnidiaeth integredig sy'n alinio rheilffyrdd, bysiau, teithio llesol, a chysylltedd digidol.
- Blaenoriaethu llwybrau a chanolfannau sy'n cefnogi safleoedd strategol - megis canolfannau cyflogaeth, campysau addysgol, a chyfleusterau iechyd.
- Defnyddio buddsoddiad i leihau allyriadau carbon a gwella ansawdd aer.
- Ymgysylltu â chymunedau a busnesau i sicrhau bod y Metro yn adlewyrchu anghenion a dyheadau defnyddwyr amrywiol.
Trwy'r Metro, mae'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn gwireddu'r uchelgais o gael rhanbarth gwirioneddol gysylltiedig, gan wella mynediad at swyddi, hyfforddiant a gwasanaethau.
Mae dynodiad y Porthladd Rhydd Celtaidd yn gyfle trawsnewidiol i Dde-orllewin Cymru.
Mae naratif y Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn un o gydweithio â phartneriaid sy'n goruchwylio'r Porthladd Rhydd Celtaidd a stiwardiaeth strategol trwy sefydlu’r Porthladd Rhydd fel catalydd ar gyfer diwydiannau newydd, masnach fyd-eang, ac arloesedd gwyrdd.
Mae'r prif elfennau'n cynnwys:
- Cydgysylltu cynllunio, seilwaith a datblygu sgiliau i fanteisio i’r eithaf ar effaith y Porthladd Rhydd.
- Cefnogi busnesau i gael mynediad at farchnadoedd newydd a ffrydiau buddsoddi.
- Blaenoriaethu ynni glân, gweithgynhyrchu uwch, a logisteg gwerth ychwanegol fel ysgogwyr ar gyfer twf cynaliadwy.
- Sicrhau bod manteision y Porthladd Rhydd yn cael eu teimlo mewn cymunedau, trwy gyflogaeth o ansawdd uchel, cyfleoedd cadwyni cyflenwi, a ffyniant cynhwysol.
Un enghraifft yn unig yw hon o'r rhanbarth yn gweithio i sicrhau bod yr uchelgais o gael economi fyd-eang arloesol a chystadleuol yn fwy pendant.
Mae dyfodol Tata Steel a'i weithlu yn fater o bwys i'r rhanbarth. Mae'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn cydnabod yr angen am arweinyddiaeth strategol, ragweithiol a thosturiol yn ystod y cyfnod pontio hwn. Mae ymgysylltiad y Cyd-bwyllgor Corfforaethol â Bwrdd Pontio Tata Steel yn ganolog i'w rôl fel cynullydd ac eiriolwr rhanbarthol.
Mae'r elfennau craidd yn cynnwys:
- Mynd ati i hyrwyddo cyfnod pontio teg i weithwyr a chymunedau yr effeithir arnynt gan y newid diwydiannol.
- Hwyluso sgiliau a rhaglenni dysgu sgiliau newydd i sicrhau bod y gweithlu wedi'i baratoi ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol yn y sectorau peirianneg, ynni, adeiladu a digidol.
- Sicrhau buddsoddiad ar gyfer adfywio safleoedd tir llwyd ac arallgyfeirio'r economi leol.
- Sicrhau bod adfer amgylcheddol a datgarboneiddio wedi'u hymgorffori ym mhob cynllun ar gyfer dyfodol y safle.
Mae'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn cynnig sicrwydd a llwybrau ymarferol i'r rhai yr effeithir arnynt a thrwy hynny wneud yr uchelgais am ddyfodol cynaliadwy, diogel yn fwy real.
Nid yw naratif y Cyd-bwyllgor yn bodoli ar ei ben ei hun. Mae wedi'i angori yng nghyd-destun ehangach Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru, ymrwymiadau Sero Net, a'r Rhaglen Lywodraethu. Trwy gyfeirio at y fframweithiau hyn, mae'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn sicrhau bod blaenoriaethau rhanbarthol yn cael eu halinio a'u hatgyfnerthu - gan sicrhau cydlyniad, atebolrwydd ac effaith.
Mae'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol hefyd yn gweithio ar draws ffiniau awdurdodau lleol i sicrhau y gwneir y defnydd gorau o safleoedd strategol, coridorau buddsoddi, a chyfleoedd twf er budd y rhanbarth cyfan.
Yr hyn sy'n nodweddu’r Cyd-bwyllgor Corfforaethol yw ei ymrwymiad i weithredu. Mae'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn troi uchelgais yn gyflawniad drwy:
- Sefydlu strwythurau llywodraethu a phartneriaethau clir i sicrhau tryloywder, atebolrwydd, a gwneud penderfyniadau cyffredin.
- Ymgorffori gwaith monitro perfformiad cadarn a mesur canlyniadau ym mhob rhaglen.
- Hyrwyddo arloesedd mewn caffael, ymgysylltu â'r gymuned, a chyflawni prosiectau.
- Meithrin diwylliant o ddysgu parhaus, y gallu i addasu a chydweithredu - gan sicrhau bod y Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn ymateb i amgylchiadau newidiol a chyfleoedd newydd.
Gellir gwireddu uchelgais ranbarthol pan fydd yn seiliedig ar brofiad pobl a lleoedd. Mae'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol wedi ymrwymo i:
- Ymgysylltu'n eang â chymunedau, busnesau a phartneriaid y rhanbarth - cyd-ddylunio atebion a grymuso arweinyddiaeth leol.
- Cyfathrebu cynnydd trwy adrodd straeon hygyrch sy'n tynnu sylw at yr effaith ar fywyd go iawn a dathlu llwyddiant.
- Arddangos prosiectau enghreifftiol fel canolfannau trafnidiaeth integredig, buddsoddiadau Porthladd Rhydd, a mentrau sgiliau sy'n dangos bod blaenoriaethau rhanbarthol yn cyflawni newid cadarnhaol.
Mae uchelgeisiau De-orllewin Cymru yn amlwg ac yn bellgyrhaeddol. Trwy gyfeirio'n uniongyrchol at brosiectau fel y Metro rhanbarthol, y Porthladd Rhydd Celtaidd, cyfnod pontio Tata Steel, ac alinio â nodau strategol ehangach, mae Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru yn gwneud yr uchelgeisiau hyn yn fwy pendant nag erioed o'r blaen.
Mae ffocws y Cyd-bwyllgor Corfforaethol ar gyflawni, ar bartneriaethau ac ar ymgysylltu gan ddarparu map ffordd ar gyfer rhanbarth sy'n hyderus, yn gydnerth ac yn agored i'r dyfodol.
Ynglŷn â'r rôl
Rydym yn chwilio am arweinydd blaengar, gweledigaethol i ymgymryd â rôl Prif Swyddog Gweithredu ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru. Os ydych chi'n angerddol am gael effaith barhaol ar gymunedau a sbarduno trawsnewid rhanbarthol, dyma'ch cyfle i arwain gyda phwrpas.
Fel Prif Swyddog Gweithredu, byddwch yn ganolog i'r broses o wneud penderfyniadau strategol, gan weithio gyda'r Cadeirydd, Is-gadeirydd, Swyddogion Statudol a phartneriaid rhanbarthol i gyflawni ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer De-orllewin Cymru 2035. Byddwch yn darparu llywodraethu cryf, yn datgloi cyfleoedd, a hyrwyddo arloesedd ledled y rhanbarth.
Bydd eich arweinyddiaeth yn sicrhau cydymffurfiaeth â rhwymedigaethau statudol a fframweithiau llywodraethu, wrth feithrin cydweithrediad â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Yn anad dim, byddwch yn sicrhau bod anghenion a dyheadau ein cymunedau a'r rhanbarth yn ganolog i bob penderfyniad a wnawn.
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
Atebolrwydd a Llywodraethu: Gweithredu fel y prif swyddog sy'n atebol i Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru, gan ddarparu arweinyddiaeth effeithiol ar draws yr holl swyddogaethau a gwasanaethau.
Datblygu Trefniadaeth: Dylunio a gweithredu strategaethau, polisïau a phrosesau i gefnogi nodau'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol fel endid cyfreithiol corfforaethol sydd newydd ei sefydlu.
Strategaeth ac Ymgysylltu ag Aelodau: Adeiladu perthnasoedd cryf gydag Aelodau Etholedig i gyflawni gweledigaeth y Pwyllgor a strategaeth fuddsoddi ranbarthol integredig.
Cydymffurfiaeth Statudol: Goruchwylio cyfrifoldebau statudol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, gan gynnwys cynllunio ariannol ac asedau, rheoli risg, cynllunio a threfniadaeth y gweithlu, a recriwtio, datblygu a rheoli staff.
Arweinyddiaeth Strategol: Arwain mewn amgylchedd llywodraethu cymhleth, ar sawl lefel, gan gydweithio â Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, a Llywodraeth y DU.
Cyllid a Buddsoddiad: Cefnogi ymdrechion i ddatgloi buddsoddiadau gan y llywodraeth a buddsoddiadau preifat, gwella rhaglenni sy'n bodoli eisoes ac ysgogi twf rhanbarthol.
Cydweithio â Rhanddeiliaid: Meithrin ymgysylltiad rhagweithiol ag awdurdodau lleol, partneriaid strategol, a rhanddeiliaid eraill i roi dyheadau rhanbarthol wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.
Amdanoch chi
Rydym yn chwilio am arweinydd ysbrydoledig a blaengar gyda phrofiad llwyddiannus mewn uwch arweinyddiaeth, arbenigedd mewn llywodraeth leol a llywodraethu rhanbarthol, ac ymrwymiad i arloesedd a gwelliant parhaus. Bydd gennych fewnwelediad strategol, ymwybyddiaeth wleidyddol, a'r ysgogiad i sicrhau rhagoriaeth.
Mae uniondeb, ymddiriedaeth a gonestrwydd yn ganolog i'r rôl hon, ac mae'n rhaid i chi ymgorffori egwyddorion Nolan ym mhob agwedd ar eich arweinyddiaeth. Bydd eich gallu i arwain drwy newid, meithrin cydweithrediad, a gwneud penderfyniadau strategol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn hanfodol.
Yr Iaith Gymraeg
Mae'r Gymraeg yn rhan annatod o hunaniaeth ein pobl a’r rhanbarth. Os nad ydych chi'n bodloni'r safon o ran y Gymraeg sydd wedi'i phennu ar gyfer y swydd hon eto, bydden ni wrth ein bodd yn darparu'r cymorth cywir i chi ddatblygu'r sgiliau Cymraeg sydd eu hangen arnoch.
Buddion
Wrth weithio i Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru, byddwch yn cael eich cyflogi gan Gyngor Sir Caerfyrddin (CSC), a byddwch yn mwynhau'r manteision a'r buddion y gall ein holl weithwyr gael mynediad atynt.
Rydym am i chi fwynhau gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac i'r profiad fod yn un gwerth chweil. Rydym yn cydnabod mai'r un o'r manteision mwyaf yw boddhad o'r gwaith ac rydym yn deall bod pawb yn gwerthfawrogi ychydig yn ychwanegol. Rydym yn cynnig ystod o fuddiannau a threfniadau gweithio i gynorthwyo gweithwyr yn eu bywyd gwaith a’u bywyd personol.
Dyddiadau Allweddol a'r Broses Ddethol
Rhestr Fer | 17 Hydref
Canolfan Asesu | 10 Tachwedd
Panel Penodi | 18 Tachwedd
Bydd y Ganolfan Asesu a'r Panel Apwyntiadau yn cael eu cynnal yn Neuadd y Sir, Rhiw'r Castell, Caerfyrddin SA31 1JP
I gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Wendy Walters, Prif Weithredwr, Cyngor Sir Caerfyrddin ar 01267 224110.