Tîm Atgyweiriadau Ymatebol – Lleoliad Profiad Gwaith Cynnal a Chadw Eiddo

 

Diddordeb mewn adeiladu, crefftau, neu ddatrys problemau ymarferol? 

Mae’r lleoliad hwn yn cynnig profiad ymarferol gyda’n Tîm Atgyweiriadau Ymatebol, sy’n rhan o’r adran Cynnal a Chadw Eiddo o fewn yr Adran Lle, Seilwaith a Datblygu Economaidd.

Beth fyddwch chi'n ei wneud

Sgiliau Crefft Ymarferol

Profiad mewn amrywiaeth o grefftau gan gynnwys gwaith brics, saernïaeth, plymio, gwaith trydanol, a phaentio ag addurno.

Atgyweiriadau yn y Byd Go Iawn

Ymuno â gweithwyr crefftus wrth iddynt gynnal atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw ar draws y Sir, gan gefnogi cynnal adeiladau a chyfleusterau’r Awdurdod.

Gwaith Tîm a Phrofiad

Gweithio ochr yn ochr â staff profiadol, dysgu am iechyd a diogelwch, a gweld sut mae gwaith atgyweirio’n helpu i sicrhau bod y gwasanaeth yn rhedeg yn esmwyth.

Mae’r lleoliad hwn yn ddelfrydol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn adeiladu, cynnal a chadw adeiladau, neu grefftau technegol, gan gynnig profiad ymarferol gwerthfawr mewn amgylchedd gwaith go iawn.

gwneud cais

Hwb