Datblygiadau Adeiladu Newydd y Cyngor
Rydym wedi ymrwymo i gynyddu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy ynni-effeithlon o ansawdd uchel yn y sir. Mae ein cartrefi yn gyfforddus i fyw ynddynt, yn ddiogel ac yn effeithlon i'w rhedeg. Rydym am ddarparu cartrefi i'n tenantiaid y gallant deimlo'n falch o fyw ynddynt, sy'n bodloni eu hanghenion heddiw ac ar gyfer y dyfodol.
Bydd cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn helpu i fynd i'r afael â'r galw cynyddol am lety. Mae hyn yn cynnwys cartrefi i deuluoedd, pobl sengl a llety arbenigol i unigolion sydd angen cymorth.
Mae'r adrannau isod yn rhoi cipolwg o'r cartrefi yr ydym eisoes wedi'u darparu, a'r safleoedd yr ydym yn adeiladu arnynt nesaf.