Datblygiadau Tai Cyngor wedi'u Cwblhau

Ein Huchelgais

Darparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel i bobl leol ledled y Sir a hyrwyddo cynhesrwydd fforddiadwy drwy ddylunio arloesol. Rydym wedi darparu dros 150 o dai Cyngor fforddiadwy newydd ledled y sir, gan ddarparu tai y mae angen mawr amdanynt i deuluoedd a phobl sengl. I weld pa ddatblygiadau sydd gennym ar-safle ar hyn o bryd, ewch i'n tudalen Yn Dod yn Fuan.

Rydym hefyd yn darparu llawer o lety â chymorth er mwyn galluogi pobl ag anawsterau iechyd meddwl ac anableddau dysgu i fyw'n annibynnol yn eu cartref eu hunain, gan roi cymorth priodol i'w helpu i reoli eu tenantiaeth eu hunain a chael mwy o ryddid a rheolaeth ar eu bywydau. Gallwch weld y cynlluniau arloesol yr ydym wedi'u creu i'n defnyddwyr ar ein tudalen Tai Arbenigol.

Yma fe welwch enghreifftiau o ddatblygiadau tai Cyngor a gwblhawyd yn ddiweddar sydd wedi darparu tai fforddiadwy i bobl leol ledled y Sir.

Hwb