Yn dod yn fuan
Ein Huchelgais
Rydym wedi ymrwymo i gynyddu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy ynni-effeithlon o ansawdd uchel yn y sir. Mae ein cartrefi yn gyfforddus i fyw ynddynt, yn ddiogel ac yn effeithlon i'w rhedeg. Rydym am greu cymunedau diogel a bywiog ac ynddynt gartrefi y gall ein tenantiaid deimlo'n falch o fyw ynddynt, ac sy'n bodloni eu hanghenion heddiw ac am genedlaethau i ddod.
Mae ein holl gartrefi wedi'u hadeiladu i'r safon uchaf, gan ddefnyddio ymagwedd gwneuthuriad yn gyntaf, technolegau adnewyddadwy a systemau gwresogi nad ydynt yn rhedeg ar danwydd ffosil. Fel hyn gallwn ddarparu ffordd o fyw ynni-effeithlon, carbon isel a fforddiadwy.
Dysgwch fwy am beth rydym yn ei wneud i fynd i'r afael ag allyriadau carbon a thlodi tanwydd yn Sir Gâr.
Rydym eisoes wedi darparu dros 100 o gartrefi Cyngor newydd ledled y sir. Gweler y rhestr o ddatblygiadau sydd eisoes wedi'u cwblhau.