Gwybodaeth Yswiriant Lesddeiliaid
Diweddarwyd y dudalen ar: 09/01/2026
Mae'n ofynnol i lesddeiliaid drefnu eu hyswiriant cynnwys eu hunain i yswirio eiddo personol o fewn eu heiddo.
Nodwch mai ni sy'n trefnu yswiriant adeiladau ar gyfer strwythur yr eiddo. Bydd cost yr yswiriant hwn yn cael ei hail-godi ar yr holl lesddeiliaid, a bydd y tâl hwn yn berthnasol waeth beth fo unrhyw drefniadau ar wahân a wneir gan y lesddeiliad. Rhaid i lesddeiliaid beidio â chael eu hyswiriant adeiladau eu hunain, gan fod hyn eisoes wedi'i ddarparu o dan ein polisi.
Cwestiynau Cyffredin:
Nac oes. Mae yswiriant adeiladau ar gyfer strwythur eich eiddo yn cael ei drefnu gennym ni ac mae wedi'i gynnwys yn yr hyn a godir arnoch. Ni ddylech drefnu eich yswiriant adeiladau eich hun.
Mae'n cynnwys strwythur yr eiddo, gan gynnwys waliau, y to, a gosodiadau parhaol. Nid yw hyn yn cynnwys eich eiddo personol.
Oes. Chi sy'n gyfrifol am drefnu eich yswiriant cynnwys eich hun i amddiffyn eich eiddo personol o fewn eich eiddo.
Bydd. Mae'r taliad ar gyfer yswiriant adeiladau yn berthnasol i bob lesddeiliad waeth beth fo'r trefniadau ar wahân.
Cysylltwch â'r Swyddog Tâl Gwasanaeth a Lesddeiliaid ar 07393 762642 neu e-bostiwch HousingRents@sirgar.gov.uk
