Dragon Rider Cymru

Diweddarwyd y dudalen ar: 13/03/2024

Mae Dragon Rider Cymru yn gwrs hyfforddiant i reidwyr beiciau modur, sy'n cael ei gefnogi gan Gynllun Gwell Beiciwr yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau a chan Thunder Road Motorcycles o Dde Cymru.

Mae Timau Diogelwch Ffyrdd Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, a Sir Benfro wedi gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu'r cwrs sgiliau gwell beiciwr hwn, a roddir ar waith gan hyfforddwyr beiciau modur cymwys a phrofiadol sydd wedi'u hachredu gan Gofrestr yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau o hyfforddwyr gyrwyr beiciau modur sydd wedi llwyddo yn eu prawf gyrru. Hefyd mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cefnogi'r fenter.

Cynhelir y cyrsiau ar y penwythnos ac maent yn para am ddiwrnod. Bydd y cwrs yn cynnwys sesiwn bore mewn ystafell ddosbarth, a fydd yn cael ei gynnal mewn gorsafoedd tân ac achub dynodedig yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman. Yn y prynhawn bydd y sesiwn yn digwydd ar amrywiaeth o ffyrdd drwy'r Sir ac mewn siroedd cyfagos er mwyn diwallu anghenion hyfforddiant beiciau modur reidwyr unigol, ar sail llawlyfr gyrru'r Heddlu, Roadcraft.

Anogir reidwyr sydd wedi cwblhau'r cwrs Beiciwr Diogel i ddod â chopïau o'u ffurflenni asesu ar gyfer sesiwn y prynhawn. Ar y ffordd bydd un hyfforddwr yn gyfrifol am ddau reidiwr ar y mwyaf. Caiff yr hyfforddiant ei addasu i ddiwallu anghenion unigol y reidiwr.

Ar ddiwedd y dydd bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn cael tystysgrif cymhwysedd a gydnabyddir gan amrywiaeth eang o gwmnïau yswiriant ac a allai olygu gostyngiad.

Faint mae'r cwrs yn ei gostio?

Mae'r cwrs yn RHAD AC AM DDIM i bobl sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin oherwydd cyllid drwy Grant Diogelwch Ffyrdd gan Lywodraeth Cymru

Pryd mae’r cwrs ar gael

  • Dydd Mercher 24 Ebrill 2024, am 6:30pm (ar-lein) a dydd Sul 28 Ebrill 2024 (ymarferol)
  • Dydd Mercher 22 Mai 2024, am 6:30pm (ar-lein) a dydd Sul 26 Ebrill 2024 (ymarferol)
  • Dydd Mercher 26 Mehefin 2024, am 6:30pm (ar-lein) a dydd Sul 30 Mehefin 2024, (ymarferol)

Bydd y cyrsiau’n cael eu darparu ar-lein drwy Microsoft Teams. Bydd rhagor o wybodaeth am sut i gael mynediad i’r cwrs, ynghyd â’r ddolen ymuno, yn cael eu hanfon atoch ar e-bost yn ystod wythnos eich cwrs. Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, e-bostiwch DiogelwchFfyrdd@sirgar.gov.uk

Gwnewch gais am le ar Dragon Rider Cymru

Teithio, Ffyrdd a Pharcio