Syr Thomas Picton
Mae gan Sir Gaerfyrddin hanes balch. Ond mae gan ei thirluniau a'i threfi gliwiau sy'n ein cysylltu â gweddill y byd. Nid yw llawer o gysylltiadau yn amlwg. Mae llawer yn cuddio gwirioneddau anghyfforddus.
Syr Thomas Picton yw'r man cychwyn amlwg, ond rydym hefyd yn ymwybodol iawn bod cysylltiad Sir Gaerfyrddin â chaethwasiaeth yn ddyfnach. Mae'n rhan o dreftadaeth ddiwydiannol y sir, y diwydiant gwlân cartref, y teuluoedd a oedd yn ddylanwadol yn wleidyddol, a hyd yn oed y cymwynaswyr cyfoethog a wnaeth gymaint o bethau da ond gan ddefnyddio arian 'drwg'.
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae'r amgueddfeydd yn rhan o'r newid hwn. Mae ganddynt eitemau sy'n gysylltiedig â chaethwasiaeth, gwladychiaeth a mathau eraill o gamddefnyddio pŵer. Ond nid yw'r cysylltiadau hyn bob amser yn cael eu cydnabod na'u deall.
Mae proses o ailddehongli sy'n cydnabod camweddau'r gorffennol wedi dechrau. Ond dim ond y cam cyntaf yw hwn ar daith i greu amgueddfeydd sy'n ddiogel a chroesawgar i bawb sy'n ymweld ac i bawb sy'n gweithio gyda'r amgueddfeydd ac ynddynt.