Fersiwn drafft o'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Adolygiadau a Dulliau Apelio

29. Adolygiadau a Dulliau Apelio

Bydd Sir Gaerfyrddin bob amser yn ymdrechu i gynnal asesiad ariannol mewn ffordd gywir a phroffesiynol. Bydd rhai asesiadau ariannol yn ymddangos yn gymhleth, a bydd hyn bob amser yn arwain at ymholiadau ac, mewn rhai achosion, adolygiadau ffurfiol.

Pan fo person ag anghenion gofal a chymorth o'r farn fod canlyniad asesiad ariannol yn anghywir am unrhyw reswm, bydd yn gallu cysylltu â'r awdurdod dros y ffôn, drwy e-bost neu’n ysgrifenedig.

Pan ddaw ymholiad i law, bydd yr aelod staff sy'n gyfrifol am yr achos fel arfer yn edrych ar yr ymholiad hwnnw. Os na chaiff y mater ei ddatrys fel bo'r person ag anghenion gofal a chymorth yn fodlon, bydd swyddog arall o fewn y tîm yn adolygu'r ymholiad a'r ymateb cychwynnol.

Os bydd y mater yn dal heb ei ddatrys, bydd gan y person ag anghenion gofal a chymorth yr hawl i wneud cais am adolygiad ffurfiol, ond dim ond lle bo sail ei gais yn cydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth.

Pan ofynnir am adolygiad ffurfiol, bydd Sir Gaerfyrddin yn cynnal yr adolygiad yn unol â´r ddeddfwriaeth.

Mae gan bob person ag anghenion gofal a chymorth yr hawl i ddefnyddio gweithdrefn gwyno'r awdurdod os ydynt yn anfodlon ar ein gwasanaethau neu ar y ffordd yr ymdriniwyd â nhw. Ni fydd gofyn am adolygiad yn atal person rhag canlyn y weithdrefn gwyno.