Fersiwn drafft o'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Eiriolaeth

21. Eiriolaeth

Bydd Sir Gaerfyrddin yn ymgysylltu â’r person ag anghenion gofal a chymorth neu ei gynrychiolydd i gwblhau’r asesiad ariannol a’r broses codi tâl. Pan nodir bod angen cymorth ar berson i gymryd rhan yn y broses hon, bydd Sir Gaerfyrddin, drwy weithiwr cymdeithasol y person hwnnw, yn ceisio canfod rhywun a all helpu i eiriol ar ran y person hwnnw.

Bydd Sir Gaerfyrddin hefyd yn hysbysu pobl ag anghenion gofal a chymorth sy'n derbyn gwasanaeth y codir tâl amdano am eu hawl i gael cyngor ariannol annibynnol.