Fersiwn drafft o'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Parhaol/Dros Dro i Gartref Gofal

26. Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Parhaol/Dros Dro i Gartref Gofal

Er mwyn pennu'r gost ychwanegol, bydd y dewis o lety a gynigir i berson ag anghenion gofal a chymorth yn Sir Gaerfyrddin i ddechrau'n seiliedig ar ddau gartref gofal o'r un math ar gyfraddau comisiynu arferol Sir Gaerfyrddin, lle gall y ddau gartref gofal fodloni anghenion asesedig y person hwnnw. Os nad yw 2 gartref gofal ar y gyfradd gomisiynu arferol ar gael, defnyddir y cartrefi gofal rhataf nesaf o fewn y sir yn sail ar gyfer y cyfrifiad.

Os dewisir llety sy'n ddrutach na'r opsiynau a gynigir ar adeg y lleoliad, cyfrifir y gost ychwanegol o'r uchaf o'r 2 gyfradd a godir gan y ddau gartref gofal a gynigiwyd.

Lle bo 3ydd parti yn talu cost ychwanegol ar ran y person ag anghenion gofal a chymorth, bydd Sir Gaerfyrddin yn gwneud ymholiadau rhesymol i'w bodloni ei hun fod y costau ychwanegol yn fforddiadwy, ac na fyddai Sir Gaerfyrddin yn gorfod ysgwyddo'r costau hynny yn y dyfodol.

Yn yr amgylchiadau hyn, bydd yn ofynnol i'r person ag anghenion gofal a chymorth roi tystiolaeth bod ganddo'r gallu ariannol i dalu'r costau ychwanegol dros hyd disgwyliedig y lleoliad.

Os nad yw'r trydydd parti yn barod i gyflwyno tystiolaeth o'r fath, neu nad oes ganddo'r gallu ariannol i dalu'r costau ychwanegol dros hyd disgwyliedig y lleoliad, ni fydd Sir Gaerfyrddin yn trefnu contract ar gyfer y lleoliad yn y cartref gofal a ddewiswyd.

Ni ddylai’r lleoliad fynd rhagddo yn y cartref gofal a ddewiswyd, os oes cost ychwanegol yn gysylltiedig â hynny, nes bo'r cytundeb costau ychwanegol lle ymrwymir i dalu'r gost ychwanegol wedi'i lofnodi gan y 3ydd parti.

Mae'r gost ychwanegol yn ychwanegol at gyfraniad y sawl sy'n derbyn gofal yn seiliedig ar yr asesiad ariannol.

Ni all y sawl sy'n derbyn gofal dalu'r gost ychwanegol, onid yw'n gallu ymrwymo i Gytundeb Taliadau Gohiriedig. Ym mhob achos arall, rhaid i 3ydd parti dalu'r swm.

Bydd yr un rheolau'n berthnasol wrth wneud cais am leoliad y tu allan i'r sir, hy, bydd y dewis o lety a gynigir i berson ag anghenion gofal a chymorth fel arfer yn seiliedig ar ddau gartref gofal o'r un math ar gyfraddau comisiynu arferol Sir Gaerfyrddin, lle gall y ddau gartref fodloni anghenion asesedig y person hwnnw. Os nad yw 2 gartref gofal ar y gyfradd gomisiynu arferol ar gael, defnyddir y cartrefi gofal rhataf nesaf o fewn y sir yn sail ar gyfer y cyfrifiad.

Pan fo person ag anghenion gofal a chymorth, yn unol â’r ddeddfwriaeth, yn gallu talu cost lawn ei leoliad, caiff ddewis unrhyw gartref gofal a bydd yn ofynnol iddo dalu cost lawn ei leoliad, gan y bydd Sir Gaerfyrddin yn trin contract o'r fath fel contract sydd y tu allan i'w chyfradd gomisiynu arferol gan ei fod yn gontract arbennig, ac felly heb fod yn ddarostyngedig i Reoliadau Gofal a Chymorth (Dewis Llety) (Cymru) 2015.

Pan fydd asedau’r person yn disgyn islaw’r trothwy sy’n gymwys ar y pryd, ac na all dalu am y trefniadau arbennig ei hun, bydd Sir Gaerfyrddin yn adolygu'r lleoliad a threfniadau'r contract ac yn ystyried a ellir symud y person i ystafell o fewn yr un cartref gofal heb unrhyw Gostau Ychwanegol, neu am Gost Ychwanegol is, neu i gartref gofal arall.

Os oes modd symud y person, ond ei fod yn dewis aros yn y cartref gofal gwreiddiol, bydd Sir Gaerfyrddin yn cysylltu â 3ydd parti i ariannu'r Gost Ychwanegol, ac os na fydd hynny'n llwyddo, gall Sir Gaerfyrddin symud y person i gartref gofal arall.

Nid yw Costau Ychwanegol yn berthnasol i gartrefi gofal a redir gan Sir Gaerfyrddin. Bydd Sir Gaerfyrddin yn pennu cyfradd safonol yn seiliedig ar y gost o ddarparu'r gwasanaeth.