Fersiwn drafft o'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Methu Taliadau a Dyled

24. Methu Taliadau a Dyled

Bydd Sir Gaerfyrddin yn defnyddio'r sianelau mwyaf priodol i fynd ar drywydd dyledion a thaliadau sy'n weddill, gan gynnwys camau adennill drwy'r llysoedd lle bo'n briodol. Mewn achosion o'r fath bydd Sir Gaerfyrddin hefyd yn adennill yr holl gostau ac yn gwneud cais am log ar y swm sydd i'w adennill.

Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi llog ar y gyfradd gyffredinol am bob dyled Gofal Cymdeithasol 91 diwrnod ar ôl i'r swm hwnnw ddod yn ddyledus (ac eithrio dyled a sicrheir drwy Gytundeb Taliadau Gohiriedig).

Ar gyfer dyled gofal dibreswyl na ellir ei chasglu pan fydd yn ddyledus, gall Sir Gaerfyrddin wneud cais am arwystl cyfreithiol yn erbyn eiddo'r defnyddiwr gwasanaeth fel sicrwydd ar gyfer y swm sy'n ddyledus. Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi ffi safonol am y trefniant hwn.
Ni fydd Sir Gaerfyrddin yn tynnu gwasanaethau’n ôl pan fydd person ag anghenion gofal a chymorth yn gwrthod neu’n methu â thalu ei dâl asesedig.