Fersiwn drafft o'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Gwasanaethau yn y Nos (Dibreswyl)

15. Gwasanaethau yn y Nos (Dibreswyl)

Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi tâl am wasanaethau asesedig sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun gofal a chymorth a ddarperir yn ystod y nos.

Yn achos pobl sydd fel arfer yn byw mewn lleoliadau sy'n darparu gofal a/neu gymorth 24/7, fel Llety â Chymorth a Chysylltu Bywydau, bydd eu holl Lwfans Gweini (AA), neu elfen ofal Lwfans Byw i'r Anabl, neu Daliad Annibyniaeth Personol Byw'n Ddyddiol (PIP), gan gynnwys elfen nos y budd-daliadau hyn sy'n gysylltiedig â gofal yn cael eu cynnwys yn eu hasesiad ariannol.

Fel arfer, caiff y gwahaniaeth rhwng cyfradd uwch a chyfradd is yr AA a'r gwahaniaeth rhwng cyfradd uwch a chyfradd ganol elfen ofal y DLA, a'r gwahaniaeth rhwng PIP byw'n ddyddiol uwch a byw'n ddyddiol sylfaenol, ei drin fel yr elfen a delir am ofal yn y nos.