Fersiwn drafft o'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Trin Eiddo

18. Trin Eiddo

Mae gan Sir Gaerfyrddin ddisgresiwn pellach i ddiystyru prif neu unig gartref, a gall wneud hynny yn yr amgylchiadau canlynol:

Pan fo gofalwr yn ei feddiannu sydd wedi rhoi'r gorau i'w gartref ei hun i fyw gyda defnyddiwr gwasanaeth, a hynny'n bennaf er mwyn gofalu am y person hwnnw

  • a bod y gofalwr wedi byw yno'n barhaus am gyfnod sylweddol cyn i'r person gael ei dderbyn i'r cartref gofal.
  • Ac nad yw'n berchen ar eiddo arall, neu â buddiant mewn eiddo arall, neu ei fod wedi rhoi'r gorau i'w denantiaeth os oedd yn byw mewn llety rhent.
  • Rhaid i'r person fod wedi'i gofrestru ar y Dreth Gyngor fel rhywun sy'n preswylio yn yr eiddo dan sylw.
  • Dim ond am y cyfnod tra bo'r berthynas neu'r cyfaill/ffrind agos yn parhau i fyw yn yr eiddo y caiff yr eiddo ei ddiystyru.

Pan fo perthynas, fel y'i diffiniwyd yn y ddeddfwriaeth, neu ffrind/cyfaill agos wedi byw yng nghartref y person ag anghenion gofal a chymorth am ei holl fywyd fel oedolyn/am y rhan fwyaf o'i fywyd fel oedolyn ac nad yw'n berchen ar unrhyw eiddo arall.

Dim ond am y cyfnod tra bo'r berthynas neu'r cyfaill/ffrind agos yn parhau i fyw yn yr eiddo y caiff yr eiddo ei ddiystyru.

Cyngor Sir Caerfyrddin ei hun sydd i benderfynu beth sy'n gyfystyr â 'ffrind/cyfaill agos' a 'holl fywyd fel oedolyn/rhan fwyaf o fywyd fel oedolyn'.