Fersiwn drafft o'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Arosiadau Byrdymor/Seibiannol Mewn Cartref Gofal

10. Arosiadau Byrdymor/Seibiannol Mewn Cartref Gofal

Pan fo person ag anghenion gofal a chymorth yn preswylio mewn cartref gofal am gyfnod byr, ac wrth dderbyn y person fod lleoliad llai nag 8 wythnos o hyd wedi'i gynllunio, cynhelir asesiad ariannol ar gyfer y lleoliad hwnnw fel pe bai'r person hwnnw'n derbyn gofal Dibreswyl. Gall person ag anghenion gofal a chymorth dreulio amryw o arosiadau mewn unrhyw gyfnod a bennir yn arosiadau byrdymor ac sydd gyda'i gilydd yn creu cyfanswm o fwy nag 8 wythnos.

Bydd y tâl fesul noson ar gyfer yr holl leoliadau byrdymor yn seiliedig ar gost lawn y lleoliad. Ar gyfer lleoliadau yng nghartrefi gofal Sir Gaerfyrddin, y tâl fydd y tâl wythnosol a gyhoeddir ar gyfer y cartrefi gofal y mae'n eu gweithredu, ac ar gyfer lleoliadau mewn cartref gofal yn y Sector Annibynnol, y tâl fydd y swm a bennir yn y contract.

Bydd y rheolau asesu dibreswyl yn cael eu cymhwyso i arosiadau tymor byr a asesir ar y cychwyn fel rhai nad ydynt yn hwy nag 8 wythnos ar unrhyw achlysur unigol. Bydd lleoliadau dros dro neu leoliadau parhaol sydd am unrhyw reswm yn para 8 wythnos neu lai yn cael eu hasesu’n ariannol gan ddefnyddio’r rheolau codi tâl preswyl.

Codir tâl am arosiadau byrdymor sy’n ymestyn y tu hwnt i 8 wythnos ar unrhyw achlysur unigol fel pe bai’r preswylydd yn ddarostyngedig i’r rheolau codi tâl preswyl, fel bo’n briodol o ddiwrnod cyntaf y 9fed wythnos.

Pan fydd arhosiad byrdymor yn ymestyn y tu hwnt i 8 wythnos ac mai'r rheswm dros yr estyniad yw'r ffaith nad yw gwasanaeth asesedig ar gael, ac nad yw taliad uniongyrchol yn cael ei ffafrio neu na fydd hynny'n bodloni canlyniadau asesedig y person, gellir ymestyn y rheolau codi tâl byrdymor y tu hwnt i'r 8 wythnos lle na ellir rhyddhau'r preswylydd, a hynny'n unig gan fod y gwasanaethau asesedig dal heb fod ar gael. Mewn achosion o’r fath codir tâl ar y person ag anghenion gofal a chymorth am y gwasanaethau y mae’n eu derbyn mewn gwirionedd.