Fersiwn drafft o'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Asesiad Ariannol

12. Asesiad Ariannol

Gwahoddir pob unigolyn ag anghenion gofal a chymorth sy’n derbyn gwasanaeth y codir tâl amdano ac eithrio gwasanaethau a ddarperir am ffi safonol, i gael asesiad ariannol i bennu faint y gall fforddio ei dalu am ei becyn gofal a chymorth asesedig, a gomisiynir gan, neu ar ran yr awdurdod lleol, neu a ddarperir gan yr awdurdod lleol.

Gall pobl ag anghenion gofal a chymorth benderfynu peidio datgan eu hasedau ariannol. Mewn achosion o’r fath, codir y tâl priodol ar y person hwnnw am y gwasanaethau y mae wedi'i asesu i'w derbyn hyd at y tâl uchafswm am wasanaeth dibreswyl, a'r gost lawn am leoliad mewn cartref gofal preswyl.

Pan fo person ag anghenion gofal a chymorth yn datgan ei asedau, ei wariant, ei dreuliau ac ati, gofynnir iddo ddarparu dogfennau i gefnogi a galluogi dilysu gwybodaeth ariannol a gwybodaeth arall a ddatgenir ar gyfer yr asesiad ariannol.
Os na ddarperir y dogfennau, caiff y person hwnnw ei asesu fel pe bai wedi dewis peidio datgan ei asedau neu unrhyw wybodaeth arall.

Fel arfer bydd disgwyl i berson ag anghenion gofal a chymorth gwblhau a dychwelyd gwybodaeth yr asesiad ariannol cyn pen 15 diwrnod gwaith. Gall person ag anghenion gofal a chymorth ofyn am estyniad, a bydd Sir Gaerfyrddin yn ystyried unrhyw gais rhesymol. Os bydd estyniad yn cael ei wrthod bydd yn egluro’r rhesymau dros wrthod.

Bydd Sir Gaerfyrddin yn cynnal yr asesiad ariannol ac yn cadarnhau’r canlyniad, gan roi dadansoddiad ysgrifenedig o’r cyfrifiad i’r person ag anghenion gofal a chymorth neu unrhyw berson arall a enwebir ganddo.

Codir yr holl daliadau o'r diwrnod cyntaf y derbynnir y gwasanaeth(au). Pan fydd unrhyw wasanaeth(au) yn newid, neu os bydd amgylchiadau ariannol y person yn newid, caiff unrhyw daliadau diwygiedig eu cymhwyso o'r dyddiad pan ddechreuodd y newid.

Bydd Sir Gaerfyrddin fel arfer yn adolygu'r asesiad ariannol yn flynyddol neu'n gynt os daw rhagor o wybodaeth berthnasol i'r amlwg, neu os caiff wybod am newidiadau i amgylchiadau ariannol rhywun.

Ni fydd yr asesiad ariannol yn cael unrhyw effaith ar yr asesiad o anghenion gofal neu gymorth y person.

Mae'r tâl wythnosol am wasanaethau yn dechrau o ddydd Llun i ddydd Sul.

Bydd yr awdurdod yn codi tâl yn seiliedig ar y lefel asesedig y gwasanaeth i'r person a ddangosir yn y cynllun gofal a chymorth, a bydd amrywiadau i'r tal hwn yn berthnasol, fel y dangosir yn Atodiad 1. Ni fydd amrywiadau i lefel asesedig y gwasanaeth o reidrwydd yn golygu y bydd y tâl a godir gan y person ag anghenion gofal a chymorth yn lleihau am yr wythnos honno, oherwydd gallai'r person fod wedi derbyn asesiad ariannol i dalu llai na'r tâl am y gwasanaeth gostyngedig.

Codir am rai gwasanaethau cymorth ar sail y gwasanaeth a ddarperir i'r sawl sy'n derbyn gofal, ee, os nodir yn y Cynllun Gofal a Chymorth mai'r gwasanaeth yw 'hyd at XX awr yr wythnos', codir tâl gan y defnyddiwr gwasanaeth am y nifer gwirioneddol o oriau a ddarparwyd iddo.

Yn yr un modd, codir tâl am wasanaethau a ddarperir ar ôl nodi anghenion hirdymor yn dilyn gwasanaeth asesu yn seiliedig ar y gwasanaethau a ddarperir hyd nes bo Cynllun Gofal a Chymorth wedi'i gwblhau.