Fersiwn drafft o'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Isafswm Incwm

14. Isafswm Incwm

Bydd Sir Gaerfyrddin yn cymhwyso'r Isafswm Incwm ar lefelau a bennir gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn ar gyfer pob lleoliad mewn cartref gofal.

Bydd Sir Gaerfyrddin yn talu'r Isafswm Incwm i breswylwyr sy'n preswylio mewn cartrefi gofal dros dro neu'n barhaol, os yw hynny wedi'i nodi ar gontract eu lleoliad cartref gofal neu os gofynnir iddi wneud hynny gan staff rheoli gofal neu unigolyn priodol.

Bydd yr Isafswm Incwm yn cael ei adennill gan y preswylydd o'i incwm ei hun (ee, budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau); nid cyfrifoldeb Sir Gaerfyrddin yw darparu Isafswm Incwm iddo os nad oes ganddo unrhyw incwm.

Bydd Sir Gaerfyrddin yn cymhwyso'r Isafswm Incwm (a elwir yn byffer) ar lefelau a bennir gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn i bob defnyddiwr gwasanaeth a asesir i dderbyn gwasanaethau dibreswyl.

Yn ychwanegol at yr Isafswm Incwm a bennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau dibreswyl yn unig, ac i osgoi cwestiynau ymwthiol ynghylch anabledd person ag anghenion gofal a chymorth, a'i wariant yn gysylltiedig â hynny, bydd Sir Gaerfyrddin hefyd yn caniatáu lwfans ychwanegol/diystyru gwariant ar anabledd. Bydd y swm ychwanegol yn cael ei gymhwyso fel a ganlyn, pan fo'r person ag anghenion gofal a chymorth yn derbyn un o'r budd-daliadau isod:

  • Swm o 25% o gydran dydd y Lwfans Gweini (AA), Elfen Ofal Lwfans Byw i’r Anabl (DLA), Taliad Annibyniaeth Personol Byw Dyddiol (PIP) a thaliadau budd-dal sy’n ymwneud â hawl y person i’r Premiwm Anabledd Difrifol

Bydd Sir Gaerfyrddin hefyd yn caniatáu fel traul, unrhyw wariant gan berson ag anghenion gofal a chymorth i brynu gofal dibreswyl yn uniongyrchol gan ddarparwr gofal cofrestredig. Mae taliadau a wneir drwy gynllun taliadau uniongyrchol wedi’u heithrio o’r ddarpariaeth hon.