Fersiwn drafft o'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Pobl heb Alluedd

19. Pobl heb Alluedd

Os nad oes gan berson alluedd meddyliol, bydd Sir Gaerfyrddin yn cyfathrebu a/neu’n gweithio gyda pherson sydd â’r awdurdod cyfreithiol i wneud penderfyniadau ariannol ar ran y person sydd ag anghenion gofal a chymorth. Lle nad oes awdurdod cyfreithiol o'r fath yn bodoli, bydd yr Awdurdod yn ymgysylltu ag aelodau o'r teulu lle bynnag y bo modd. Ym mhob achos bydd Sir Gaerfyrddin yn cymhwyso egwyddorion Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a'r cod ymarfer.