Fersiwn drafft o'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Gwasanaethau Codi Tâl

6. Gwasanaethau Lle Na Chodir Tâl

Ni fydd Sir Gaerfyrddin yn codi tâl am y canlynol:

  • Gwasanaethau Gofal a Chymorth i blentyn dan 18 oed.
  • Gofal a Chymorth a ddarperir i rai â Chlefyd Creutzfeldt Jacob lle bo diagnosis clinigol o'r clefyd hwnnw gan ymarferydd meddygol cofrestredig.
  • Gwasanaethau Gofal a Chymorth a gynigir, a drefnir, neu a ddarperir i berson yn rhan o becyn o wasanaethau ôl-ofal yn unol ag Adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
  • Darparu cludiant i wasanaeth dydd pan ddarperir y cludiant hwnnw er mwyn bodloni anghenion asesedig y person.
  • I gynnal asesiad o anghenion, cynllunio gofal a chynlluniau gofal a Gwybodaeth a Chyngor ar gyfer y swyddogaethau hyn.
  • I gynnal asesiad ariannol, darparu datganiad tâl a chynnal adolygiad o benderfyniad ynghylch tâl, a Gwybodaeth a Chyngor ar gyfer y swyddogaethau hyn o dan y ddeddfwriaeth.
  • Gwasanaeth Ailalluogi/Asesu Cymunedol i ddefnyddwyr gwasanaeth am hyd at 6 wythnos, (ee, Ailalluogi gartref, mewn cartref gofal, ac ati.) gyda darpariaeth ar gyfer cyfnodau estynedig lle bo'r asesiad o anghenion yn cefnogi estyniad.
  • Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol lle bo awdurdod lleol wedi trefnu hyn yn unol â’r ddeddfwriaeth.

 

Ni fydd Sir Gaerfyrddin ychwaith yn codi tâl am:

  • Offer/cymhorthion ar gyfer bywyd bob dydd
  • Gwasanaethau nad ydynt wedi'u cynnwys yn y cynllun gofal a chymorth. Eithriadau yw pan fo gwasanaethau ar waith hyd nes y cwblheir y cynllun gofal a chymorth, lle bo anghenion gofal hirdymor wedi’u nodi ar ôl cyfnod asesu (Ailalluogi mewn cartref gofal, neu yn y gymuned, neu Wasanaeth Asesu Cymunedol fel arfer). Yn yr achosion hyn, codir tâl o'r dydd Llun ar ôl i anghenion gofal hirdymor gael eu nodi.
  • Gwasanaethau heb eu cynllunio.
  • Gwasanaethau Cyflogaeth a Hyfforddiant – mynd i ganolfan i dderbyn hyfforddiant cyflogaeth, a/neu ddatblygiad a chymorth personol er mwyn cael swydd.
  • Cyflogaeth â Chymorth – darparu gofal a/neu gymorth i berson anabl mewn gweithle.
  • Cymorth mewn lleoliad addysg - darparu gofal a/neu gefnogaeth i berson anabl tra bo mewn lleoliad addysg cydnabyddedig, ac wrth ddilyn cwrs addysg cydnabyddedig.
  • Gwasanaethau a ddarperir gan wirfoddolwyr yn unig.



7. Gwasanaethau y Codir Tâl Amdanynt

Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi tâl am y gwasanaethau a ganlyn a drefnir neu a ddarperir ganddi:

  • Gwasanaethau a ddarperir mewn Cartref Gofal - Unrhyw wasanaethau a ddarperir i breswylydd boed y lleoliad yn lleoliad parhaol neu dros dro, ee, Gofal Preswyl, Gofal Nyrsio, Gofal Tymor Byr, a Gofal Seibiant (ac eithrio ailalluogi preswyl am hyd at 6 wythnos)
  • Gofal a Chymorth Cartref, gan gynnwys gofal ychwanegol – darparu gofal personol, gofal nad yw’n bersonol, a chymorth yn y cartref.
  • Taliadau Uniongyrchol – taliad a wneir i berson i’w alluogi i brynu ei ofal ei hun.
  • Gofal Dydd – yn cynnwys ystod o wasanaethau wrth ymweld â chanolfan neu unrhyw leoliad arall y tu allan i cartref y person ei hun.
  • Byw â Chymorth – Gofal a chymorth i berson gan ofalwyr cyflogedig yng nghartref y person ei hun (ac eithrio Gofal Cartref).
  • Cysylltu Bywydau – lle bydd oedolyn yn byw gyda gofalwr cymeradwy sy'n derbyn tâl i'w gefnogi.
  • Gofal Amgen - lle bo gweithiwr gofal yn cymryd lle'r gofalwr anffurfiol dros dro i ddarparu gofal a/neu gymorth i berson yn ei gartref ei hun.
  • Cymorth Cymunedol - gwasanaethau wedi'u cynllunio'n arbennig i unigolion (ac eithrio Gofal Cartref neu Ofal Dydd).
  • Technoleg Gynorthwyol Arbenigol sy'n helpu pobl i fyw'n annibynnol.

8. Taliadau Cyfradd Safonol

Bydd Sir Gaerfyrddin hefyd yn codi tâl am y gwasanaethau canlynol sy'n cymryd lle costau byw dyddiol arferol, neu a fyddai'n cael eu hystyried yn wasanaethau ataliol. Codir am y gwasanaethau hyn drwy daliadau cyfradd safonol, ac ni fydd y taliadau'n destun asesiad ariannol.

  • Prydau bwyd mewn sefydliad
  • Gwasanaeth golchdy
  • Dirprwyaeth
  • Penodeiaeth i ddelio â budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau.
  • Rheoli Diogelu Eiddo

Ni fydd asesiadau ariannol fel arfer yn cael eu cynnal ar gyfer y gwasanaethau uchod, ond lle bo gan y Cyngor reswm i dybio bod, neu y gallai effaith gronnus taliadau cyfradd safonol fod yn anfforddiadwy, bydd yn cynnig asesiad ariannol.

Ni chaiff y tâl am y gwasanaethau hyn ei gynnwys yn yr uchafswm tâl wythnosol (y cap) wrth bennu faint fydd rhywun yn talu am wasanaethau.