Fersiwn drafft o'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Cymhwyso'r Rheolau i Achosion Unigol

28. Cymhwyso'r Rheolau i Achosion Unigol

Bydd y Cyfarwyddwr Cymunedau neu ei olynydd yn gwneud penderfyniadau mewn achosion unigol lle bo'r ddeddfwriaeth yn caniatáu arfer doethineb, neu'n aneglur, ac fe gaiff ddirprwyo ei gyfrifoldeb i uwch swyddog addas fel bo'n briodol. Wrth ddod i benderfyniad, bydd yn ymdrechu i sicrhau bod y penderfyniad yn deg a chyson, ac y bydd yn peri bod pob person ag anghenion gofal a chymorth yn cael ei drin yn deg. Ni fydd y penderfyniadau hynny'n atal person ag anghenion gofal a chymorth rhag gwneud cais i adolygu'r penderfyniad drwy'r broses briodol.