Fersiwn drafft o'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Taliadau Uniongyrchol

11. Taliadau Uniongyrchol

Bydd person ag anghenion gofal a chymorth sy’n cael taliad uniongyrchol yn lle gwasanaeth yn derbyn asesiad ariannol, a chodir tâl arno yn yr un modd â phe bai gwasanaeth cyfatebol yn cael ei ddarparu iddo.

Os yw’r person yn defnyddio ei Daliad Uniongyrchol i brynu gofal a/neu gymorth drwy asiantaeth, a bod y ffioedd yn uwch na’r Taliad Uniongyrchol, bydd yn ofynnol i’r person ychwanegu at y Taliadau Uniongyrchol i dalu am y diffyg. Bydd y swm atodol hwn yn ychwanegol at gyfraniad y person ar sail asesiad ariannol.