Fersiwn drafft o'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Lleoliadau Preswyl

9. Lleoliadau Preswyl

Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi tâl am bob lleoliad mewn cartref gofal, beth bynnag fo'r gwasanaeth neu hyd y gwasanaeth, onid yw wedi'i ddiffinio yn y ddeddfwriaeth fel un lle na cheir codi tâl amdano.

Y tâl a godir fydd cost lawn cost y lleoliad fesul noson, am leoliadau mewn cartref gofal. Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi tâl am bob noson yr asesir y bydd y person ag anghenion gofal a chymorth i dderbyn y gwasanaeth. Codir y gyfradd diwrnod llawn am ddefnyddio gwasanaeth am ran o ddiwrnod. Codir tâl ar berson ag anghenion gofal a chymorth ar y diwrnod derbyn, ond ni codir tâl arno am y diwrnod rhyddhau.

Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi ffi weinyddol ar breswylwyr y mae eu cyfalaf hylifol yn fwy na’r trothwy cyfalaf ac a allai drefnu eu lleoliad cartref gofal eu hunain (neu fod person sydd ag awdurdod cyfreithiol i weithredu ar ran y person a allai drefnu’r lleoliad).

Bydd Sir Gaerfyrddin yn parhau i godi tâl ar berson ag anghenion gofal a chymorth yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Derbyn i’r ysbyty – Os bydd person ag anghenion gofal a chymorth yn cael ei dderbyn i'r ysbyty, a'r lleoliad cartref gofal yn cael ei gadw, parheir i godi tâl gan y person ag anghenion gofal a chymorth am eu cyfraniad yn seiliedig ar asesiad ariannol, tra bônt yn absennol o'r cartref gofal.
    Os bydd y Cyngor yn lleihau'r taliad i'r cartref gofal i gyfradd sy'n llai na chyfraniad y person yn seiliedig ar asesiad ariannol, bydd y Cyngor yn lleihau cyfraniad y person yn unol â hynny.

Pan fo'r absenoldeb yn hwy na 28 diwrnod, bydd Sir Gaerfyrddin yn cadw'r hawl i ailasesu anghenion y person a/neu derfynu'r lleoliad yn y cartref gofal.

Os oes Cost Ychwanegol am y lleoliad, parheir i godi tâl am hynny tra bo'r person yn absennol o'r cartref gofal.

  • Rhyddhau dros dro o gartref gofal, gyda’r bwriad o breswylio’n barhaol yn y gymuned – Pan fydd person y mae ei anghenion gofal a chymorth fel arfer wedi'u bodloni mewn cartref gofal dros dro/parhaol yn cael ei ryddhau dros dro o'r cartref gofal, gyda golwg ar droi'r sefyllfa honno'n sefyllfa barhaol, parheir i godi tâl gan y person am ei leoliad yn y cartref gofal, tra bo'r lleoliad yn cael ei gadw. Gall y swm a godir gan y person am ei leoliad ostwng, i roi ystyriaeth i gostau ychwanegol a ysgwyddir tra bo'n absennol o'r cartref gofal (ee, bwyd, cyfleustodau), lle ceir tystiolaeth o'r costau hynny, a lle nad oes gan y person ddigon o fodd i dalu'r costau ei hun.

Bydd hyn yn weithredol am uchafswm o 4 wythnos, a lle bo Sir Gaerfyrddin wedi cytuno ymlaen llaw i'r absenoldeb o'r cartref gofal. Pan fo'r absenoldeb yn hwy na 28 diwrnod, bydd Sir Gaerfyrddin yn cadw'r hawl i ailasesu anghenion y person a/neu derfynu'r lleoliad yn y cartref gofal.

Os asesir bod angen gofal a chymorth ar y person tra bo'n absennol o'r cartref gofal, ni chodir am y gwasanaethau hynny gan y byddant yn parhau i orfod talu am y lleoliad cartref gofal a gedwir.

Os oes Cost Ychwanegol am y lleoliad, parheir i godi tâl am hynny tra bo'r person yn absennol o'r cartref gofal.