Fersiwn drafft o'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Cyngor am Fudd-Daliadau

13. Cyngor am Fudd-Daliadau

Yn rhan o'r asesiad ariannol bydd Sir Gaerfyrddin yn cynnig cyngor ar fudd-daliadau a/neu'n atgyfeirio person ag anghenion gofal a chymorth, gyda'u cytundeb, i asiantaethau partner neu sefydliadau eraill a fydd yn cynnig cyngor ar fudd-daliadau lles ac yn helpu i gyflwyno ceisiadau lle bo'n briodol.