Fersiwn drafft o'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Rheoli Eiddo a Chyllid

20. Rheoli Eiddo a Chyllid

a. Dirprwyaeth ar gyfer eiddo a materion ariannol

Ni fydd Sir Gaerfyrddin fel arfer yn gwneud cais i’r Llys Gwarchod i fod yn Ddirprwy ar gyfer Eiddo a Materion Ariannol person ag anghenion gofal a chymorth.

Ni fydd ond yn gwneud hynny fel dewis olaf, a dim ond ar gyfer y personau hynny sy'n derbyn gwasanaethau gan Sir Gaerfyrddin i fodloni eu hanghenion gofal a chymorth, a lle ystyrir bod gwneud hynny er budd pennaf y person, ee, lle nodwyd materion diogelu posibl.

Os bydd Sir Gaerfyrddin yn gwneud cais i fod yn Ddirprwy, bydd yn adennill unrhyw gostau y mae'n eu hysgwyddo am ei rôl fel dirprwy, gan gynnwys cyfradd safonol am gostau a ysgwyddwyd hyd at roi'r gorchymyn Dirprwyaeth. Ni wneir cais i ddod yn ddirprwy ond pan fo'r cyngor o'r farn fod swm digonol o gyllid i'w reoli, a lle bo cyllid ar gael i dalu'r costau'n gysylltiedig â rôl y dirprwy.

Bydd costau ychwanegol yn cael eu hysgwyddo os oes gan y person eiddo y mae'n ofynnol i Sir Gaerfyrddin ei warchod.

b. Penodeiaeth ar gyfer Budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)

Os nad oes gan y person ddigon o arian ar gyfer cais am ddirprwyaeth, bydd Sir Gaerfyrddin yn gwneud cais i’r Adran Gwaith a Phensiynau weithredu fel penodai corfforaethol i reoli budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau ar ran y person sy'n derbyn gofal a chymorth gan/ar ran Sir Gaerfyrddin, lle bo hynny er budd pennaf y person.

Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi tâl safonol am benodeiaethau.

Nid yw Penodeiaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi awdurdod i Sir Gaerfyrddin weithredu ar ran y person mewn perthynas ag unrhyw faterion ariannol eraill, dim ond i ymdrin â budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau.

 

c. Gwarchod Eiddo

Ni fydd Sir Gaerfyrddin fel arfer yn gwarchod eiddo person ag anghenion gofal a chymorth, na pherson yn yr ysbyty.

Dim ond fel dewis olaf y gwneir hynny, lle na all y person (boed hynny dros dro neu'n barhaol) warchod neu ymdrin â'r eiddo, ac nad oes unrhyw drefniadau eraill addas wedi'u gwneud, neu yn cael eu gwneud i warchod yr eiddo hwnnw. Ni fydd Sir Gaerfyrddin ond yn gwarchod eiddo'r personau hynny sydd wedi'u derbyn i'r ysbyty, neu i lety a drefnwyd gan Sir Gaerfyrddin, a lle yr ystyrir bod gwneud hynny er budd pennaf y person, ee, lle ceir perygl o ddifrod neu golled i'r eiddo hwnnw.

Os yw Sir Gaerfyrddin yn gwarchod eiddo'r person, bydd yn adennill unrhyw gostau y mae'n eu hysgwyddo wrth adolygu/cynnal a chadw/clirio'r eiddo, ynghyd â chyfradd safonol am wasanaethau cymorth yn gysylltiedig â gwarchod yr eiddo, p'un a yw'r person yn berchen ar yr eiddo neu'n ei rentu.