Fersiwn drafft o'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Seibiannol/Byrdymor i Gartref Gofal

27. Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Seibiannol/Byrdymor i Gartref Gofal

Nid yw deddfwriaeth dewis yn berthnasol i leoliadau tymor byr/seibiannol. Bydd y person ag anghenion gofal a chymorth yn cael cynnig un cartref gofal a chanddo le ac a all fodloni ei anghenion asesedig. Bydd hyn ar gyfraddau comisiynu arferol Sir Gaerfyrddin.

Os na fydd un cartref gofal ar gael ar y gyfradd gomisiynu arferol, cynigir y cartref gofal rhataf nesaf o fewn y sir.

Os dewisir llety drutach, cymhwysir cost ychwanegol.

Mae'r gost ychwanegol yn ychwanegol at gyfraniad y sawl sy'n derbyn gofal yn seiliedig ar yr asesiad ariannol.

Nid yw Costau Ychwanegol yn berthnasol i gartrefi gofal a redir gan Sir Gaerfyrddin. Mae Sir Gaerfyrddin yn gosod tâl safonol yn seiliedig ar gost darparu'r gwasanaeth.