Rhoi Hwb i'ch Busnes – Ymunwch â'n Cynllun Buddion Staff

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithredu Porth Buddion Gweithwyr, sy'n rhoi mynediad i dros 10,000 o weithwyr a gofalwyr y cyngor at ostyngiadau a chynigion unigryw ledled y sir.

Rydyn ni'n gwahodd busnesau a sefydliadau lleol i ymuno â'r cynllun. Trwy gymryd rhan, byddwch chi'n helpu i annog ein staff i archwilio'r hyn sydd ar gael yn lleol a chefnogi economi'r sir—wrth hyrwyddo'ch busnes i filoedd o gwsmeriaid posibl.

Ar hyn o bryd rydyn ni'n chwilio am fusnesau lleol i gymryd rhan, i annog gweithwyr a gofalwyr y cyngor i ymgyfarwyddo â'r hyn sydd ar gael yn y sir ac i'w hannog i ymweld â busnesau lleol a gwario gyda nhw.

Fel un o gyflogwyr mwyaf y sir, mae ein Cynllun Buddion Staff yn offeryn marchnata pwerus. Mae bod yn rhan yn golygu bod eich busnes yn aros yn flaenllaw yn y meddwl pan fydd gweithwyr yn cynllunio diwrnod mas, yn chwilio am anrheg arbennig, neu'n pori am rywbeth newydd.

Pa fath o gynigion sy'n gweithio orau?

Mae'r rhan fwyaf o fusnesau yn darparu gostyngiad o 10% neu 15% i ddeiliaid cardiau, ond bydd unrhyw gynnig yn cael ei groesawu. Ymhlith y partneriaid presennol mae Theatrau Sir Gâr, Actif, Canolfan Gwlyptir Genedlaethol WWT, a Stacey's Kitchen.

Os hoffech hyrwyddo'ch busnes i filoedd o bobl a chyrraedd mwy o bobl, llenwch ein ffurflen gofrestru ar-lein.

 

Cofrestrwch eich busnes