Cyfleuster chwaraeon newydd sy'n addas i bob tywydd

Roedd Clwb Rygbi Llanymddyfri, un o dimau hynaf Cymru, angen gwelliannau sylweddol i'w gyfleusterau chwaraeon yng ngogledd Sir Gaerfyrddin.

Mae'r Clwb Rygbi Llanymddyfri a phartneriaid wedi gwella'r cae chwaraeon gan ei baratoi ar gyfer pob tywydd, gyda goleuadau LED newydd, a gwell cyfleusterau i wylwyr a chae 3G newydd sbon. Cefnogodd y cyllid y gwaith o ailddatblygu'r cyfleuster hwn, sy'n cael ei ddefnyddio gan yr holl glybiau chwaraeon yn yr ardal, ysgolion lleol a sefydliadau gwirfoddoli gan ei wneud yn addas ar gyfer y dyfodol. 

Ers i'r cyfleusterau newydd gael eu cwblhau, mae llawer mwy o bobl wedi eu defnyddio sydd wedi sicrhau budd gwirioneddol i’r gymuned.

I ddarganfod mwy, ewch i'r tudalen we Clwb Rygbi Llanymddyfri.