Cyfleusterau addysg awyr agored newydd
Ymgeiswyr y Prosiect: Cyngor Sir Caerfyrddin
Y Rhaglen Angor:Cymunedau Cynaliadwy 2
Lleoliad: Parc Gwledig Pen-bre
Bydd cwrs rhaffau uchel ac isel yn cael eu gosod a bydd y stablau marchogaeth a'r swyddfeydd presennol yn cael eu hadnewyddu'n gyfleuster storio ar gyfer offer dringo. Mae'r ddau gwrs yn werthfawr ar gyfer datblygiad personol a gwaith adeiladu tîm. Mae cyrsiau rhaffau uchel yn herio unigolion i oresgyn ofnau a meithrin hunanhyder, ac mae cyrsiau rhaffau isel yn canolbwyntio ar waith tîm, ymddiriedaeth a chefnogaeth.