Cyfleusterau addysg awyr agored newydd
Mae cyllid wedi'i ddefnyddio i osod ychwanegiad newydd cyffrous ym Mharc Gwledig Pen-bre. Mae cyrsiau rhaffau uchel ac isel newydd wedi'u gosod sy'n herio unigolion i oresgyn eu hofnau a meithrin hunanhyder, gan ganolbwyntio ar waith tîm, ymddiriedaeth a chefnogaeth. Mae'r cyrsiau ar gael i ysgolion a sefydliadau yn y sir gyda'r nod o fod o fudd i ddisgyblion trwy ddarparu addysg awyr agored o ansawdd uchel.
Mae adnewyddu'r stablau marchogaeth a'r swyddfeydd yn gyfleuster storio wedi creu lle storio diogel ar gyfer yr offer newydd ac mae gwelliannau wedi'u gwneud i wella bioamrywiaeth ardal natur bwrpasol sy'n 23,000m².
Yn ystod y datblygiad mae pum gwirfoddolwr newydd wedi cael eu recriwtio a'u hyfforddi.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r wefan: https://www.parcgwledigpenbre.cymru/






