Prosiect Gwella Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Gan weithio mewn partneriaeth â Ramblers Cymru, mae cyllid wedi cefnogi gwelliannau i nifer o Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn y sir. Mae dros 40 o gatiau newydd wedi'u gosod a dros 15,000m2 o lwybrau wedi'u clirio er mwyn gallu eu defnyddio.
Cafodd sawl digwyddiad cerdded ei gynnal ac mae pum gwirfoddolwr newydd wedi cael eu recriwtio a'u hyfforddi, sydd wedi arolygu a chlirio llwybrau, a byddan nhw'n cynnal a chadw'r llwybrau yn y dyfodol.
"Rydyn ni'n mwynhau cerdded, ac mae gan Sir Gaerfyrddin lefydd gwych i gerdded. Gan fod y ddau ohonon ni wedi ymddeol, mae gennyn ni'r amser i wneud rhywbeth dros ein sir ac mae'r cyfle gennyn ni i gerdded llwybrau na fydden ni wedi eu hystyried o'r blaen. Gwirfoddolwyr Ramblers Cymru
I gael gwybod mwy am wirfoddoli, cysylltwch ag amy.goodwin@ramblers.org.uk neu ewch i'r wefan: https://www.ramblers.org.uk/wales/
I gael rhagor o wybodaeth am yr Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn y sir, ewch i: https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/hawliau-tramwy-cyhoeddus






