SiopNEWydd Dryslwyn
Mae swyddfa bost a siop gymunedol Dryslwyn wedi cynnig gwasanaeth da dros y 17 mlynedd diwethaf ac, wrth wynebu'r posibilrwydd y byddai'r siop yn cau, mae'r gwirfoddolwyr sy'n rhedeg y siop boblogaidd wedi llwyddo i sicrhau cyllid i adeiladu cyfleuster pwrpasol newydd.
Bydd datblygiad newydd yr adeilad 2,000 troedfedd sgwâr yn creu swyddfa bost, siop a chanolfan gymunedol newydd wych gan gynnwys caffi i drigolion Dryslwyn, Cwrt Henri a'r ardaloedd cyfagos.
Mae cyllid hefyd wedi diogelu swydd ran-amser, wedi helpu i recriwtio a hyfforddi saith gwirfoddolwr newydd ac wedi sicrhau cynnydd o dros gant o nifer y bobl leol sy'n ymgysylltu'n weithredol â'r ganolfan gymunedol newydd, a fydd yn agor yn ystod hydref 2026.
I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y dudalen Facebook: https://www.facebook.com/dryslwyncommunityshop
neu ewch i'r wefan: Siop Gymunedol Dryslwyn Cyf




