Tywi Link

Mae Dolen Teifi yn sefydliad nid-er-elw sy'n llogi bysiau mini i grwpiau cymunedol, unigolion a sefydliadau o gymunedau yng Ngheredigion a Chaerfyrddin.

Yn y rownd gyntaf, roedd cyllid wedi helpu i brynu bws mini i drigolion Cwm Gwendraeth a thu hwnt. Mae'r gwasanaeth newydd yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo cynhwysiant a gwella ansawdd bywyd i bob grŵp oedran.

Mae cyllid wedi cefnogi'r gwaith o brynu dau fws mini newydd, gan ddarparu gwasanaeth cludiant teithwyr newydd yn Nyffryn Tywi. Mae un bws mini wedi'i leoli yn Llandeilo ac un arall yn Llanymddyfri ac mae'r ddau fws yn darparu atebion trafnidiaeth cost-effeithiol.

Mae tîm o dros 50 o wirfoddolwyr wedi cael eu recriwtio a'u hyfforddi'n llawn i ddarparu'r gwasanaeth hanfodol hwn i dros 1,000 o ddefnyddwyr newydd.

Yn ystod y ddau brosiect, mae un swydd amser llawn wedi'i sicrhau, dros gant o wirfoddolwyr newydd wedi'u recriwtio a'u hyfforddi, ac mae hyn oll wedi cyfrannu at gynnydd o dros 2,200 o bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth.

"Heb y cludiant hwn fyddwn i ddim yn gallu mynd i mewn i Lanymddyfri ar gyfer fy ngrwpiau rheolaidd. Mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'm hyder a'm llesiant.”
Defnyddiwr gwasanaeth, Llanymddyfri

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y dudalen Facebook: https://www.facebook.com/dolenteifi neu ewch i'r wefan: https://www.dolenteifi.org.uk/home