Y Cwtsh

Yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb gynhwysfawr, cafodd cyllid ei sicrhau gan wahanol ffynonellau i ailddatblygu adeilad yr hen bafiliwn ym Mharc y Mynydd Mawr yn y Tymbl.

Roedd gwelliannau i'r cyfleuster yn cynnwys gwella effeithlonrwydd ynni a chyflwr cyffredinol yr adeilad. Mae cawodydd, ciwbiclau a meinciau newydd wedi'u gosod yn y cyfleusterau newid ac mae gofod cymunedol sydd wedi'i greu yn cael ei ddefnyddio i gynnal archfarchnad gymdeithasol 'talwch fel y mynnwch' a chanolfan gynnes, gan greu lle diogel i'r holl drigolion lleol.

Mae cyllid wedi cefnogi un rôl amser llawn ac, yn ystod y datblygiad, mae 10 gwirfoddolwr newydd wedi'u recriwtio a thros 100 o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi'u cynnal.

I gael gwybod rhagor ewch i'r dudalen Facebook https://www.facebook.com/llannoncommunitycouncil neu ewch i'r wefan: http://www.ccllannon.org.uk/