Mess Up The Mess

Enw(au): Jay Smith

Swyddogaeth(au): Cydlynydd Ymgysylltu Gwirfoddolwyr

Lleoliad: Rhydaman
Gwefan: Mess Up The Mess

A allwch chi ddweud ychydig wrthym am eich sefydliad, yr hyn a’ch ysbrydolodd chi i’w ddechrau, a’i rôl o fewn y gymuned leol?

Mae cwmni theatr Mess Up The Mess yn fenter gymdeithasol ddielw sydd wedi bod yn cynnal gweithdai drama cynhwysol am ddim yn Rhydaman a Dyffryn Aman ers 2007. Rydym yn gweithio gyda’r bobl ifanc anoddaf eu cyrraedd yn ein cymuned, gan ddefnyddio theatr a’r celfyddydau fel arfau pwerus i gynnal eu llesiant, codi eu hyder ac ymgysylltu â nhw a’u grymuso i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Mae pobl ifanc sy’n dod i Mess Up The Mess yn dysgu sgiliau newydd ac yn cael eu hysbrydoli i fynd ymlaen i astudio ymhellach yn y coleg a’r brifysgol. Mae llawer wedi dychwelyd fel oedolion i wirfoddoli a gweithio gyda Mess Up The Mess.

Sut mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi cynorthwyo’chsefydliad chi, a pha welliannau neu newidiadau penodol yr ydych chi wedi gallu eu gwneud gyda’r cyllid?

Cynorthwywyd Mess Up The Mess gan gyllid y gronfa ffyniant gyffredin i wneud y canlynol:
  • Hyfforddi staff i gyflwyno ac asesu cymwysterau achrededig Arts Award
  • Cynnal rhaglen o gymorth i bobl ifanc sy’n gwirfoddoli
  • Cyflwyno rhaglen o ddosbarthiadau meistr sgiliau creadigol i bobl ifanc
Dysgwyd dosbarthiadau meistr mewn sgiliau creadigol gan weithwyr proffesiynol y diwydiant ac roeddent yn cynnwys dylunio llwyfan, goleuo, ymladd llwyfan, cyfansoddi caneuon, gwneud ffilmiau a cholur effeithiau arbennig. Heb gyllid y gronfa ffyniant ni fyddem wedi gallu cynnal rhaglen mor helaeth o hyfforddiant sgiliau ochr yn ochr â’n gweithdai wythnosol craidd.
O ganlyniad i’r cyllid, mae Arts Award bellach wedi’i sefydlu ar draws ein darpariaeth, gyda phobl ifanc yn gallu cyflawni cymhwyster cydnabyddedig am eu dysgu a’u profiad gyda Mess Up The Mess.

Pa effaith y mae’r prosiect hwn wedi’i chael ar y gymuned leol hyd yma, a sut y mae hi wedi ymateb i’r gwasanaethau / gwelliannau yr ydych chi wedi’u cyflawni?

Trwy’r prosiect, fe gyflwynon ni 16 o ddosbarthiadau meistr i 46 o gyfranogwyr gwahanol, a chefnogi 31 o wirfoddolwyr ifanc i gyfrannu 1,945 awr o wirfoddoli.
Hyfforddwyd saith aelod o staff i gyflwyno ac asesu Arts Award. Enillodd 17 o bobl ifanc wobr Arts Award ar lefel Explore, ac enillodd 23 wobr efydd. Mewn partneriaeth â Menter Bro Dinefwr, llwyddwyd i gyrraedd 26 o bobl ifanc ychwanegol a enillodd wobr Explore trwy gyfrwng y Gymraeg.
Hwb