Cronfa Bywiogrwydd Canol Trefi

Rhagarweiniad

Ariennir Cronfa Bywiogrwydd Canol Trefi gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Chyngor Sir Caerfyrddin.

Bydd y cyllid ar gael i berchnogion / lesddeiliaid (prydles 7 mlynedd o leiaf o ddyddiad y taliad terfynol h.y. 8 mlynedd os bydd y prosiect yn cymryd 12 mis i'w gwblhau) a bydd yn canolbwyntio ar sicrhau bod eiddo gwag ar y llawr gwaelod yn cael eu defnyddio at ddibenion masnachol unwaith eto. Os yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn berchen ar yr eiddo, mae isafswm prydles o saith mlynedd o ddyddiad y taliad terfynol yn ofynnol ac mae'n rhaid gohebu ag Adran Eiddo CSC cyn y broses ymgeisio CPSales@sirgar.gov.uk. 

Os bydd y cais yn cael ei gyflwyno gan landlord sy'n bwriadu gosod yr eiddo, cyn cyflwyno cais llawn bydd angen i denant cyn gosod / terfynol ar gyfer defnydd masnachol fod yn ei le.