Cronfa Bywiogrwydd Canol Trefi

Ad-dalu'r grant

Bydd y cyllid yn cael ei gadw'n ôl a/neu, o ran taliad sydd wedi cael ei wneud, bydd derbynnydd y grant yn ad-dalu'r cyllid naill ai'n llawn neu'n rhannol, gan gynnwys:

  • Os yw gwiriad domestig gan Lywodraeth y Cynulliad, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, Swyddfa Archwilio Cymru neu'r Llys Archwilwyr neu unrhyw rai o'u cynrychiolwyr, yn nodi amgylchiadau lle bo ad-daliad llawn neu rannol yn ddyledus, neu, os yw'r Comisiwn yn gofyn am i'r cyllid gael ei atal, ei leihau, ei ganslo neu ei adennill.
  • Os oes gormod o gyllid wedi'i dalu.
  • Os canfyddir bod yr ymgeisydd wedi camliwio mewn perthynas â'r cais.
  • Os yw'r ymgeisydd wedi torri'r amodau.
  • Os nad yw'r eiddo'n cael ei adfer yn llawn o fewn 12 mis i unrhyw ddigwyddiad sy'n arwain at golli neu ddifrodi'r eiddo.
  • Yn ystod ei oes economaidd, bod y prosiect yn newid yn sylweddol a'i fod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dibenion gwahanol i'r rheiny a nodwyd yn y cais, neu, bod y perchennog yn newid ac nad yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael ei hysbysu am hynny. Y bywyd economaidd yw'r cyfnod o 5 mlynedd yn dilyn dyddiad y taliad grant terfynol.