Cronfa Bywiogrwydd Canol Trefi

Gwaredu asedau

Mae'n rhaid i'r ymgeisydd sicrhau caniatâd ysgrifenedig gan y Cyngor Sir ynghylch gwaredu unrhyw eiddo neu newid tenant terfynol o fewn 5 mlynedd o'r taliad grant terfynol. 

Bydd y Cyngor Sir yn ceisio cofrestru buddiant yn yr eiddo y derbyniwyd cyllid ar ei gyfer gyda'r Gofrestrfa Tir, naill ai drwy osod cyfyngiad neu arwystl cyfreithiol ar yr eiddo. Yn achos tir heb ei gofrestru lle nad oes opsiwn i osod cyfyngiad, mae'n bosibl y bydd angen pridiant cyfreithiol ar bob achlysur. Drwy'r broses hon, bydd y Cyngor Sir yn cael gwybod am unrhyw newid ym mherchnogaeth neu les yr eiddo.

Bydd y Cyngor yn dymuno sicrhau na cheir unrhyw newid i'r gwaith y derbyniwyd cymorth grant ar ei gyfer, ac ni fydd yn dal unrhyw ganiatâd yn ôl yn afresymol. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd yn gofyn i'r grant gael ei ad-dalu'n rhannol neu yn ei gyfanrwydd a bydd hyn yn cael ei bennu mewn ymgynghoriad â Llywodraeth y DU.

Ni fydd y Cyngor yn atal cymeradwyaeth o'r fath yn afresymol ond gall ei gwneud yn ofynnol i'r grant gael ei ad-dalu'n rhannol yn unol â'r canlynol:

Dyddiad gwaredu'r ased(au) Y swm sydd i'w ad-dalu
O fewn 1 flwyddyn Cyllid i'w ad-dalu'n llawn
O fewn 2 flynedd Ad-dalu 80% o'r cyllid
O fewn 3 blynedd Ad-dalu 60% o'r cyllid
O fewn 4 flynedd Ad-dalu 40% o'r cyllid
O fewn 5 mlynedd Ad-dalu 20% o'r cyllid
Ar ôl 5 mlynedd Dim cyllid i'w ad-dalu

Yr uchod yw'r isafswm y mae'n rhaid ei ad-dalu.