Cronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin
Mae'r broses ymgeisio bellach wedi cau. Ymdrinnir â'r ceisiadau ar sail y cyntaf i'r felin. Os bydd cyllid ychwanegol ar gael, gall y cronfeydd hyn ailagor – cadwch lygad ar y dudalen hon i gael y wybodaeth ddiweddaraf neu gofynnwch am gael hysbysiad drwy anfon e-bost at economicdevelopment@sirgar.gov.uk
Gall Cronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin roi cymorth ariannol i fusnesau ac unig fasnachwyr ar gyfer datblygu safleoedd busnes newydd a phresennol, lle mae swyddi’n cael eu creu o ganlyniad i’r prosiect.
Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau fydd yn dod â buddiannau amlwg i’r economi leol o ran nifer ac ansawdd y swyddi uniongyrchol a gaiff eu creu mewn sectorau allweddol.
Beth sydd ar gael?
Seilir y grant naill ai ar £20,000 am bob swydd a grëir neu hyd at y cyfraddau ymyrraeth canlynol, pa ffigwr bynnag sydd leiaf:
- Busnesau Bach: 45%;
- Busnesau Canolig: 35%;
- Busnesau Mawr*: 25%
Uchafswm y grant yw £100,000 Mewn amgylchiadau eithriadol, mae'n bosibl y gallai hyn gynyddu.
Cymhwysedd
Bydd yn rhaid i'r adeilad sydd i'w ddatblygu, ei wella neu ei helaethu fod mewn Ardal Wledig o Sir Gaerfyrddin fel y diffiniwyd yn Strategaeth Datblygu Lleol Ardaloedd Gwledig Sir Gaerfyrddin
Bydd grantiau ar gyfer gwaith ar eiddo ar gael i berchnogion y buddiant rhydd-ddaliad yn yr eiddo neu i ddalwyr prydles sydd i barhau am o leiaf saith mlynedd arall ar ôl y dyddiad a rhagwelir y bydd taliad terfynol y grant yn cael ei wneud.
*Manylion bellach ar gael wedi nodi yng nghanllawiau’r grant.
Pwysig: Darllenwch y canllawiau cyn gwneud cais
Cyllid
Grant Tyfu Busnes
- Y Cynnig
- Cymhwysedd
- Yr hyn y gallwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
- Yr hyn na allwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
- Offer ail-law
- Swyddi a gaiff eu creu / eu diogelu
- Rheolau caffael - Cael dyfynbrisiau
- Ad-dalu - Pryd efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu'r grant
- Effaith ar yr Amgylchedd
- Rheoli Cymorthdaliadau
- Sut i ymgeisio
Parcio am ddim yng nghanol trefi
Trawsnewid Trefi
- Swm y cyllid
- Cymhwysedd
- Yr hyn y gallwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
- Yr hyn na allwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
- Rheolau caffael – Cael dyfynbrisiau
- Ad-dalu - Pryd efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu'r grant
- Effaith ar yr Amgylchedd
- Diogelwch
- Awdurdod Statudol a Rheoli Cymorthdaliadau
- Budd i'r Gymuned
- Sut mae gwneud cais
Cronfa Benthyciadau Canol Trefi
Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru 2022-23
Mwy ynghylch Cyllid