Cronfa Mentrau Sir Gaerfyrddin

Diweddarwyd y dudalen ar: 30/10/2024

Gall Cronfa Mentrau Sir Gaerfyrddin roi cymorth ariannol i fusnesau ac unig fasnachwyr ar gyfer datblygu safleoedd busnes newydd a phresennol, lle mae swyddi’n cael eu creu o ganlyniad i’r prosiect.

Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau fydd yn dod â buddiannau amlwg i’r economi leol o ran nifer ac ansawdd y swyddi uniongyrchol a gaiff eu creu mewn sectorau allweddol.

 

Beth sydd ar gael?

Seilir y grant naill ai ar £30,000 am bob swydd a grëir neu 50%, pa ffigwr bynnag sydd leiaf.

Uchafswm y grant yw £240,000  Mewn amgylchiadau eithriadol, mae'n bosibl y gallai hyn gynyddu. 

Cymhwysedd

  • Bydd y cyllid yma yn ariannu gwaith ar eiddo masnachol newydd neu bresennol lle ma swyddi yn cael eu creu o ganlyniad. 

  • Bydd grantiau ar gyfer gwaith ar eiddo ar gael i berchnogion y buddiant rhydd-ddaliad yn yr eiddo neu i ddalwyr prydles sydd i barhau am o leiaf saith mlynedd arall ar ôl y dyddiad a rhagwelir y bydd taliad terfynol y grant yn cael ei wneud. 

I wneud cais am Ffurflen Gais anfonwch e-bost at: DatblyguEconomaidd@sirgar.gov.uk

*Manylion bellach ar gael wedi nodi yng nghanllawiau’r grant.

Pwysig: Darllenwch y canllawiau cyn gwneud cais

          canllawiau          

Cyllid