Cynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol
Diweddarwyd y dudalen ar: 30/03/2026
Mae Cynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth ariannol i helpu i wneud defnydd unwaith eto o dai gwag hirdymor. Mae grantiau gwerth hyd at £25,000 ar gael i adnewyddu cartrefi cymwys, gan eu gwneud yn ddiogel, yn effeithlon o ran ynni ac yn barod i symud i mewn iddynt.
Er mwyn bod yn gymwys, mae'n rhaid bod eiddo wedi bod yn wag am o leiaf 12 mis, ei fod wedi'i restru fel preswylfa at ddibenion y dreth gyngor, ac mai'r ymgeisydd yw perchennog yr eiddo (neu ei fod yn y broses o gael ei brynu) ar adeg gwneud cais. Mae'n rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus fod yn byw yn yr eiddo fel eu prif breswylfa am o leiaf bum mlynedd ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau.
Bydd ceisiadau am y cynllun yn cau ar 30 Medi 2026, er y gall Cyngor Sir Caerfyrddin gau ceisiadau'n gynt, yn dibynnu ar y galw a'r adnoddau sydd ar gael. Mae'n rhaid cwblhau'r holl waith grant a gafodd ei gymeradwyo yn llawn erbyn 30 Medi 2027.
Mae Sir Gâr yn awdurdod lleol sy'n cymryd rhan, ac mae'n rhaid i bob cais am y grant gael ei wneud yn uniongyrchol drwy borth ceisiadau Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei ddarparu ar ei rhan gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Sut i Wneud Cais
Mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau ar-lein ar wefan Llywodraeth Cymru:
Gwnewch gais am Grant Cartrefi Gwag
Os ydych chi'n ystyried defnyddio eiddo gwag unwaith eto, gall y grant hwn helpu i wireddu eich cynlluniau gan gefnogi anghenion tai lleol ledled Sir Gâr.
