Y Gronfa Furluniau

Gwaith/Costau Cymwys

Bydd yr adeilad sy'n destun y cais yn cael ei asesu i sicrhau y byddai'r gwaith arfaethedig drwy'r grant yn gwella esthetig gweledol yr adeilad.

Rhaid i'r ymgeisydd sicrhau, gan ddefnyddio cyngor proffesiynol priodol yn ôl yr angen, fod y gwaith arfaethedig yn dechnegol addas, bod ganddo uniondeb strwythurol, a'i fod wedi sicrhau pob caniatâd a thrwydded statudol priodol lle bo'n berthnasol.

Mae gwaith i'r lloriau uchaf yn gymwys ar yr amod bod y llawr gwaelod yn cael ei ddefnyddio'n fasnachol. Mae enghreifftiau o wariant cymwys wedi'i gynnwys isod:

Mae enghreifftiau o wariant cymwys yn cynnwys;

Bydd ceisiadau o fewn yr ardaloedd cyflawni diffiniedig (o fewn y llinellau coch) yn nhrefi Rhydaman, Caerfyrddin, Llanelli a Phorth Tywyn yn cael eu hystyried ar gyfer y gronfa. Bydd safleoedd o'r tu allan i'r ffin yn cael eu hystyried fesul achos.

Bydd yr adeilad sy'n destun y cais yn cael ei asesu i sicrhau y byddai'r gwaith arfaethedig drwy'r grant yn elwa ar gael murlun ac y byddai'n lleoliad addas ar gyfer murlun. Y panel fydd yn ystyried dyluniad y murlun ac felly bydd angen cadarnhau hynny o'r cychwyn. 

Bydd cyllid ar gyfer gwaith i'r eiddo ar gael i berchnogion y rhydd-ddaliad neu i denantiaid sydd â hawl i feddiannaeth yn unig. Rhaid i lesddeiliaid sicrhau caniatâd ysgrifenedig eu landlord ar gyfer y gwaith arfaethedig.

Rhaid i'r ymgeisydd sicrhau bod yr eiddo'n cael ei feddiannu ar ôl ei gwblhau i fodloni'r amcan o leihau cyfraddau eiddo gwag yng nghanol y trefi.

Rhaid i bob derbynnydd a thenant terfynol fod yn hyfyw yn economaidd ac yn ariannol.

Gwaith/costau anghymwys

Mae’r rhain yn cynnwys: -

  • Ni fydd prosiectau preswyl yn gymwys am yr arian hwn.
  • Unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â'r prosiect cyn cael caniatâd.
  • Ffioedd cyfreithiwr
  • Ffioedd statudol gan gynnwys cynllunio, newid defnydd, caniatâd adeilad rhestredig ac ati 
  • Gwaith dylunio murlun 
  • Paentio neu lanhau'r ardal yn barod ar gyfer codi'r murlun 
  • Gwaith na fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol i wella'r amgylchedd yn gyffredinol yn yr ardal, er enghraifft gwaith ar eiddo na fydd y cyhoedd yn eu gweld.
  • Unrhyw waith nad yw wedi cael ei gaffael yn unol â rheolau caffael trydydd parti. 
  • Prynu deunyddiau yn uniongyrchol. Rhaid prynu'r holl ddeunyddiau trwy'r contractwr cymeradwy.
  • Costau sy'n gysylltiedig â pharatoi'r waliau (h.y. glanhau neu ail-baentio) cyn codi'r murlun. 
  • Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw'r costau cynnal a chadw parhaus.