Y Gronfa Furluniau

Y Grant

Yr uchafswm fydd £2,000 gyda chyfradd ymyrryd o 80%, fesul eiddo.

Rhaid i'r ymgeisydd fod yn gwneud gwaith a fydd yn gwella esthetig gweledol yr adeilad.

Ni ellir cynnig y cyllid ond yn yr achosion hynny lle mae’r Cyngor yn fodlon na fydd y prosiect yn gallu mynd rhagddo heb y cyfryw gyllid grant, naill ai ar y raddfa a ragwelir neu o fewn amserlen resymol.

Bydd swm y cyllid a gynigir i bob prosiect yn cael ei bennu gan y Cyngor Sir a bydd yn seiliedig ar y dyfynbrisiau isaf a dderbynnir ar gyfer y gwaith cymeradwy yr ystyrir ei fod yn gymwys i gael cyllid grant.  

Swm y cyllid a bennir yn y llythyr cynnig grant yw uchafswm cyfraniad y Cyngor Sir tuag at y prosiect. Os bydd unrhyw ostyngiadau yng nghost y gwaith cymeradwy, bydd y Cyngor Sir yn gwneud gostyngiad pro rata i swm y grant a gynigiwyd yn wreiddiol.

Fel arfer, dyfernir cyllid heb gynnwys TAW.  Os na all yr ymgeisydd adennill TAW, gellir derbyn hyn fel cost gymwys yn ôl disgresiwn y Cyngor Sir, yn amodol ar i'r ymgeisydd ymrwymo i ad-dalu i'r Cyngor Sir unrhyw elfen TAW a gaiff ei hadennill yn ddiweddarach oddi wrth Dollau Tramor a Chartref EM o ganlyniad i newid yn statws TAW yr ymgeisydd.