Bwrsariaeth Lansio Busnes Sir Gâr

Bwrsariaeth Lansio Busnes Sir Gâr 

 Fel rhan o'n ymrwymiad parhaus i ddatblygu economaidd a chefnogi entrepreneuriaid lleol, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyflwyno Bwrsariaeth Lansio Busnes Sir Gâr sy'n cael ei hariannu gan Cronfa Twf Lleol  Llywodraeth y DU. 

 Nod y fwrsariaeth yw creu'r cyfle i entrepreneuriaid lleol brofi eu syniadau busnes cyn creu busnes newydd yn ffurfiol. Drwy gyfnod o fasnachu prawf, gall entrepreneuriaid fireinio eu cynhyrchion neu eu gwasanaethau a deall galw'r farchnad heb y risg ariannol. 

Ynglŷn â'r Fwrsariaeth 

Mae Bwrsariaeth Lansio Busnes Sir Gâr yn daliad wedi'i ariannu'n llawn o hyd at £1,000 sydd ar gael i unrhyw unigolion dros 18 oed yn Sir Gaerfyrddin sydd â diddordeb mewn masnachu prawf ar gyfer syniad busnes, a heb fawr ddim profiad busnes blaenorol, neu ddim o gwbl. 

 Rhaid i ymgeiswyr ddarparu dadansoddiad o’r gwariant arfaethedig, gan gynnwys cost ac enw’r cyflenwr/cyflenwyr gyda dyfynbrisiau ategol. Anogir y defnydd o gyflenwyr yn Sir Gaerfyrddin lle bynnag y bo modd.  

 Bydd yr holl wariant rhesymol yn cael ei ystyried fesul achos ac yn cael ei benderfynu yn ôl disgresiwn y Tîm Datblygu Economaidd. Nid ystyrir eitemau a brynir ag arian parod. 

 Bydd ceisiadau llwyddiannus yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol: 

  •  Bydd Ceisiadau Llwyddiannus yn Ddarostyngedig i'r Amodau Canlynol:
  • Bydd 100% o'r dyfarniad yn cael ei ryddhau ymlaen llaw
  • Rhaid darparu tystiolaeth o'r gwariant a amlinellir yn y cais o fewn 2 fis i ddyddiad dyfarnu'r Fwrsariaeth
  • Rhaid darparu tystiolaeth o weithgareddau masnachu prawf o fewn 6 mis i ddyfarnu'r Fwrsariaeth
  • Gellir gwneud cais am estyniad i'r cyfnodau uchod gydag esboniad rhesymol a phenderfynir ar achosion o'r fath yn ôl disgresiwn y Tîm Datblygu Economaidd 

  Gellir lawrlwytho telerau llawn y Fwrsariaeth isod. 

 Sut i Ymgeisio 

I gyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb, lawrlwythwch y ffurflen isod a'i dychwelyd i: BusinessSupport@sirgar.gov.uk. 

Mynegiant o Ddiddordeb

Telerau Bwrsariaeth

 Bydd Swyddog Datblygu Economaidd yn adolygu eich Mynegiant o Ddiddordeb ac yn cysylltu â chi'n fuan. 

 Sylwer: Ni fydd unigolion y dyfarnwyd bwrsariaeth iddynt yn flaenorol o dan Fwrsariaeth Lansio Busnes wreiddiol Sir Gaerfyrddin (2024 a 2025) yn gymwys i ailymgeisio. 

 Gweithgareddau Anghymwys

  • Pwrpasau pleidiol-wleidyddol
  • Hyrwyddo safbwyntiau seciwlar, crefyddol neu wleidyddol penodol
  • Hapchwarae
  • Pornograffi
  • Cynnig gwasanaethau rhywiol
  • Unrhyw fath o weithgaredd anghyfreithlon; neu
  • Unrhyw fath o weithgaredd a allai, ym marn y Cyngor, ddwyn anfri ar y Cyngor ac sy'n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i weithdrefnau, cynhyrchion a thriniaethau mewnwthiol sydd heb eu rheoleiddio, modelu noeth neu hanner noeth, canolfannau hapchwarae, gwasanaethau gwelyau haul, therapïau amgen, cynhyrchion a meddyginiaethau, aciwbigo, siopau fêps, siopau tybaco, dylanwadu drwy gyfryngau cymdeithasol, cwnsela, hyfforddi ffordd o fyw, tatŵyddion, adeiladu hapfasnachol, triniaethau meddygol cyflenwol, cynhyrchion cosmetig, gweithdrefnau esthetig, cynhyrchion olew CBD, cryptoarian.