Cymorth Busnes 1:1

Cymorth Busnes 1 i 1 

 Ar ôl cefnogi llawer o fusnesau Sir Gaerfyrddin yn llwyddiannus a chael mynediad at gymorth 1:1 yn 2024 a 2025, mae'r tîm yn falch o barhau â'r cynnig hwn yn 2026. 

 Gall busnesau sydd angen cymorth 1 i 1 gael mynediad at sesiynau a ariennir mewn amrywiaeth o arbenigeddau, gan gynnwys cynllunio twf busnes, rheolaeth ariannol, strategaeth farchnata, datblygu gwefannau a llawer mwy. 

 Oherwydd y galw uchel iawn am y cymorth hwn, mae'n ofynnol i fusnesau gyflwyno ffurflen gais fer, sy'n cynnwys y manylion canlynol: 

  •  Cefnogaeth a ddewiswyd
  • Enw a ymgynghorydd a ffefrir (os yn wybod)
  • Manylion am sut gall y cefnogaeth fod o fudd i'r busnes.  

Fydd ceisiadau yn cael eu hasesu fesul achos, gyda blaenoriaeth tuag at brosiectau sydd yn dangos yr effaith fwyaf posibl i'r busnes. 

 Os nad ydych yn gwybod pa ymgynghorydd yr hoffech, gall y Tîm Ymgysylltu â Busnes gynnig rhestr o ddarparwyr gydag arbenigedd penodol. Sylwch nid yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn cefnogi unrhyw un darparwr cymorth penodol a bydd y penderfyniad terfynol ynghylch pa ymgynghorydd/ymgynghorwyr i ymgysylltu â nhw yn cael ei wneud yn y pen draw gan yr ymgeisydd. 

 Os bydd yn llwyddiannus, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwneud taliad yn uniongyrchol i'r darparwr cymorth. Bydd ceisiadau yn cael eu capio ar werth £1,500 o gyfanswm y cymorth. 

 Mae ymgeiswyr yn cytuno i weithio gyda'r darparwr cymorth a bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw cofnod o'r sesiynau a ddarperir a'r canlyniadau dilynol a gyflawnwyd ar gyfer y busnes.  

 Bydd pob cais rhesymol yn cael ei ystyried fesul achos ac yn cael ei benderfynu yn ôl disgresiwn y Tîm Datblygu Economaidd. 

 I gyflwyno cais am gymorth busnes 1 i 1, lawrlwythwch y ffurflen isod a'i dychwelyd at: businesssupport@sirgar.gov.uk. Bydd Swyddog Datblygu Economaidd yn adolygu eich cais ac yn cysylltu â chi cyn hir. 

 Ffurflen 

Sylwch na allwn gefnogi busnesau sy'n gweithredu unrhyw un o'r gweithgareddau isod:  

  •  Pwrpasau pleidiol-wleidyddol
  • Hyrwyddo safbwyntiau seciwlar, crefyddol neu wleidyddol penodol
  • Hapchwarae
  • Pornograffi
  • Cynnig gwasanaethau rhywiol
  • Unrhyw fath o weithgaredd anghyfreithlon; neu
  • Unrhyw fath o weithgaredd a allai, ym marn y Cyngor, ddwyn anfri ar y Cyngor ac sy'n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i weithdrefnau, cynhyrchion a thriniaethau mewnwthiol sydd heb eu rheoleiddio, modelu noeth neu hanner noeth, canolfannau hapchwarae, gwasanaethau gwelyau haul, therapïau amgen, cynhyrchion a meddyginiaethau, aciwbigo, siopau fêps, siopau tybaco, dylanwadu drwy gyfryngau cymdeithasol, cwnsela, hyfforddi ffordd o fyw, tatŵyddion, adeiladu hapfasnachol, triniaethau meddygol cyflenwol, cynhyrchion cosmetig, gweithdrefnau esthetig, cynhyrchion olew CBD, cryptoarian.