Atriwm
O dan yr enw newydd Atriwm, rydyn ni'n trawsnewid yr hen siop fawr hon yn Rhodfa'r Santes Catrin yn nhref Caerfyrddin yn gyfleuster unigryw a fydd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau cymunedol mewn un man canolog.
Mae'r prosiect adnewyddu mawr hwn, sydd wedi cael cymorth ariannol sylweddol gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yn cynnwys llawer o waith adeiladu allanol a mewnol i greu'r mannau angenrheidiol i gyflwyno cyfleuster amlbwrpas hygyrch o'r maint a'r cwmpas hwn.
Bydd Actif, Gwasanaeth Chwaraeon a Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin, yn cynnig ei gampfa 24 awr gyntaf, stiwdios chwilbedlo a gweithgareddau o'r radd flaenaf, golff antur dan do, canolfan chwarae i blant, Gwibgertio Trydan, arena gemoli TAG Active â sawl parth ac ystafelloedd ar gyfer partïon. Bydd Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Caerfyrddin y Cyngor hefyd yn symud yma, gan gynnig help, cyngor a chefnogaeth ynghylch amrywiaeth eang o wasanaethau'r Cyngor ac asiantaethau eraill. Bydd Atriwm hefyd yn gartref i ganolfan wybodaeth i ymwelwyr a fydd yn cefnogi twristiaeth leol a sirol.

CGI o'r Gofod Hwb
TAG Active

Bydd gwasanaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Da yn cynnwys therapïau plant a phobl ifanc, nyrsio cymunedol a phlant, gwasanaethau deintyddol brys, iechyd rhywiol, fflebotomi, podiatreg ac iechyd meddwl.

CGI o ystafell arholiad
Bydd myfyrwyr y cwrs BSc Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff dwyieithog yn darparu clinigau tylino meinwe feddal ac anafiadau o dan oruchwyliaeth y tîm academaidd. Mae'r rhaglen BSc Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi'i hachredu gan Gymdeithas y Therapyddion Chwaraeon ac mae'n canolbwyntio ar baratoi myfyrwyr i weithio yn yr agwedd ar ofal iechyd sy'n ymwneud yn benodol ag atal anafiadau ac adsefydlu cleifion. Mae'r radd hefyd yn cael ei chymeradwyo gan y Gymdeithas Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (CIMSPA) sy'n golygu ei bod yn cyd-fynd â safonau'r diwydiant ar gyfer rolau swyddi fel hyfforddwr campfa a hyfforddiant personol, sy'n golygu bod myfyrwyr yn gymwys iawn ar gyfer y gweithle. Bydd cleientiaid hefyd yn elwa o'r gampfa Actif sydd gerllaw a'r ystod o wasanaethau iechyd i ategu'r driniaeth a ddarperir.

CGI o ystafell ymneilltuo myfyrwyr
Dechreuodd y gwaith yn 2024 a bydd ar agor i'r cyhoedd yn gynnar yn 2027. Mae contractwyr lleol, gan gynnwys FP Hurley, Shufflebottom a Becker Sliding Partitions, wedi bod yn allweddol wrth roi'r cynllun ar waith, gyda chefnogaeth rhwydwaith o gadwyni cyflenwi, gan greu manteision economaidd gwirioneddol i'r gymuned leol.

Fel gyda llawer o drefi a dinasoedd ledled y DU, gadawodd cwymp cadwyn adwerthu Debenhams fwlch mawr yng nghynnig adwerthu Caerfyrddin. Mae rhai wedi cael eu hailosod (Merthyr Tudful), rhai wedi'u dymchwel at ddefnyddiau eraill (Caerloyw a Chaerdydd) ond mae'r mwyafrif helaeth wedi aros yn wag gan adael effaith negyddol ar yr ardal ehangach.
Mewn trafodaethau gyda pherchnogion y parciau adwerthu, amryw o bartneriaid lleol a Llywodraeth y DU, cytunodd Cyngor Sir Caerfyrddin i arwain prosiect gwerth miliynau o bunnoedd i brynu ac adfywio'r cyfleuster, gan wneud gwaith adfer y ffasadau allanol gwreiddiol a newid y cynllun mewnol yn llwyr.
Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso (IRCF) Llywodraeth Cymru, gyda chyllid pellach gan Lywodraeth y DU a'r Cyngor Sir.
Mae'r enw 'Atriwm' wedi'i ysbrydoli i gydnabod gwreiddiau Rhufeinig Caerfyrddin, gyda'i chaer a'i amffitheatr. Mae Atriwm, yn deillio o'r gair Lladin, Atrium, sy'n golygu cyntedd neu brif gwrt agored tŷ Rhufeinig.
Atriwm hefyd yw'r enw ar un o ddwy siambr uchaf y galon ddynol, enw sy'n briodol i'r holl bartneriaid sy'n ymwneud â'r prosiect a phwrpas iechyd a llesiant yr adeilad. Yng nghyd-destun pensaernïaeth fodern, mae'r Atriwm yn talu teyrnged i ffenestri gwydr mawr eiconig yr hen adeilad adwerthu, sy'n taflu goleuni i mewn i'r adeilad.
Oherwydd gwaith adeiladu adfer annisgwyl, mae'r prif gontractwr Bouygues UK wedi dechrau gwaith ar ffasâd yr adeilad a fydd yn gofyn am system rheoli traffig 3 ffordd ar Heol y Gwyddau sy'n debygol o fod ar waith tan Hydref 2026. Mae mynediad llawn i'r maes parcio aml-lawr trwy Rodfa'r Santes Catrin.