Atriwm
O dan yr enw newydd Atriwm, rydyn ni'n trawsnewid yr hen siop fawr hon yn Rhodfa'r Santes Catrin yn nhref Caerfyrddin yn gyfleuster unigryw a fydd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau cymunedol mewn un man canolog.
Mae'r prosiect adnewyddu mawr hwn, sydd wedi cael cymorth ariannol sylweddol gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yn cynnwys llawer o waith adeiladu allanol a mewnol i greu'r mannau angenrheidiol i gyflwyno cyfleuster amlbwrpas hygyrch o'r maint a'r cwmpas hwn.
Bydd Actif, Gwasanaeth Chwaraeon a Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin, yn cynnig ei gampfa 24 awr gyntaf, stiwdios chwilbedlo a gweithgareddau o'r radd flaenaf, golff antur dan do, canolfan chwarae i blant, Gwibgertio Trydan, arena gemoli TAG Active â sawl parth ac ystafelloedd ar gyfer partïon. Bydd Hwb Gwasanaethau Cwsmeriaid Caerfyrddin y Cyngor hefyd yn symud yma, gan gynnig help, cyngor a chefnogaeth ynghylch amrywiaeth eang o wasanaethau'r Cyngor ac asiantaethau eraill. Bydd Atriwm hefyd yn gartref i ganolfan wybodaeth i ymwelwyr a fydd yn cefnogi twristiaeth leol a sirol.

CGI o'r Gofod Hwb
TAG Active

Bydd gwasanaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Da yn cynnwys therapïau plant a phobl ifanc, nyrsio cymunedol a phlant, gwasanaethau deintyddol brys, iechyd rhywiol, fflebotomi, podiatreg ac iechyd meddwl.

CGI o ystafell arholiad
Bydd myfyrwyr y cwrs BSc Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff dwyieithog yn darparu clinigau tylino meinwe feddal ac anafiadau o dan oruchwyliaeth y tîm academaidd. Mae'r rhaglen BSc Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi'i hachredu gan Gymdeithas y Therapyddion Chwaraeon ac mae'n canolbwyntio ar baratoi myfyrwyr i weithio yn yr agwedd ar ofal iechyd sy'n ymwneud yn benodol ag atal anafiadau ac adsefydlu cleifion. Mae'r radd hefyd yn cael ei chymeradwyo gan y Gymdeithas Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (CIMSPA) sy'n golygu ei bod yn cyd-fynd â safonau'r diwydiant ar gyfer rolau swyddi fel hyfforddwr campfa a hyfforddiant personol, sy'n golygu bod myfyrwyr yn gymwys iawn ar gyfer y gweithle. Bydd cleientiaid hefyd yn elwa o'r gampfa Actif sydd gerllaw a'r ystod o wasanaethau iechyd i ategu'r driniaeth a ddarperir.

CGI o ystafell ymneilltuo myfyrwyr
Dechreuodd y gwaith yn 2024 a bydd ar agor i'r cyhoedd yn gynnar yn 2027. Mae contractwyr lleol, gan gynnwys FP Hurley, Shufflebottom a Becker Sliding Partitions, wedi bod yn allweddol wrth roi'r cynllun ar waith, gyda chefnogaeth rhwydwaith o gadwyni cyflenwi, gan greu manteision economaidd gwirioneddol i'r gymuned leol.

Fel gyda llawer o drefi a dinasoedd ledled y DU, gadawodd cwymp cadwyn adwerthu Debenhams fwlch mawr yng nghynnig adwerthu Caerfyrddin. Mae rhai wedi cael eu hailosod (Merthyr Tudful), rhai wedi'u dymchwel at ddefnyddiau eraill (Caerloyw a Chaerdydd) ond mae'r mwyafrif helaeth wedi aros yn wag gan adael effaith negyddol ar yr ardal ehangach.
Mewn trafodaethau gyda pherchnogion y parciau adwerthu, amryw o bartneriaid lleol a Llywodraeth y DU, cytunodd Cyngor Sir Caerfyrddin i arwain prosiect gwerth miliynau o bunnoedd i brynu ac adfywio'r cyfleuster, gan wneud gwaith adfer y ffasadau allanol gwreiddiol a newid y cynllun mewnol yn llwyr.
Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso (IRCF) Llywodraeth Cymru, gyda chyllid pellach gan Lywodraeth y DU a'r Cyngor Sir.
Mae'r enw 'Atriwm' wedi'i ysbrydoli i gydnabod gwreiddiau Rhufeinig Caerfyrddin, gyda'i chaer a'i amffitheatr. Mae Atriwm, yn deillio o'r gair Lladin, Atrium, sy'n golygu cyntedd neu brif gwrt agored tŷ Rhufeinig.
Atriwm hefyd yw'r enw ar un o ddwy siambr uchaf y galon ddynol, enw sy'n briodol i'r holl bartneriaid sy'n ymwneud â'r prosiect a phwrpas iechyd a llesiant yr adeilad. Yng nghyd-destun pensaernïaeth fodern, mae'r Atriwm yn talu teyrnged i ffenestri gwydr mawr eiconig yr hen adeilad adwerthu, sy'n taflu goleuni i mewn i'r adeilad.
Oherwydd gwaith adeiladu adfer annisgwyl, mae'r prif gontractwr Bouygues UK wedi dechrau gwaith ar ffasâd yr adeilad a fydd yn gofyn am system rheoli traffig 3 ffordd ar Heol y Gwyddau sy'n debygol o fod ar waith tan Hydref 2026. Mae mynediad llawn i'r maes parcio aml-lawr trwy Rodfa'r Santes Catrin.
Atriwm yw ailddatblygu hen adeilad Debenhams yng nghanol tref Caerfyrddin yn gyfleuster aml-ddefnydd a fydd yn darparu gwasanaethau gofal iechyd, canolfan weithgareddau a chyfleusterau adloniant i'r teulu, ochr yn ochr â manteision economaidd a chymdeithasol ehangach i'r dref.
Roedd y caffaeliad yn rhan o gais llwyddiannus i'r Gronfa Ffyniant Bro a gymeradwywyd gan Lywodraeth y DU yn 2021. Nodwyd yr adeilad fel cyfle allweddol i ddod ag ased canol tref gwag amlwg yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol.
Naddo. Ariannwyd prynu hen adeilad Debenhams yn gyfan gwbl trwy Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU. Ni ddefnyddiwyd unrhyw gyllid gan y Cyngor i gaffael yr eiddo.
Roedd cynnig gwreiddiol y Gronfa Ffyniant Bro yn seiliedig ar ddyluniad cysyniadol gyda chyllideb gymeradwy o £19.608 miliwn.
Mae'r cynnydd yn adlewyrchu cyfuniad o ffactorau gan gynnwys:
- Ehangu cwmpas y prosiect.
- Cyfleusterau gofal iechyd ychwanegol.
- Mwy o arwynebedd llawr.
- Gwell gwasanaethau adeiladu a seilwaith clinigol.
- Chwyddiant ym maes adeiladu sy'n effeithio ar y sector ehangach.
- Gwaith adfer strwythurol a nodwyd yn ystod y gwaith adnewyddu.
Ydy. Ar ôl cael cyllid y Gronfa Ffyniant Bro, ymgymerodd y Cyngor â gwaith dylunio a chynllunio gwasanaethau manylach. Roedd cyllid allanol ychwanegol yn galluogi cynnwys canolfan weithgareddau, darpariaeth gofal iechyd ehangach, mwy o arwynebedd llawr a buddion ehangach yng nghanol y dref.
Sicrhawyd £12 miliwn arall o gyllid gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phartneriaid prosiect ar ôl dyfarniad gwreiddiol y Gronfa Ffyniant Bro. Roedd hyn yn galluogi'r prosiect i gael ei ehangu y tu hwnt i'r cynnig cychwynnol.
Cyn prynu'r adeilad, cynhaliwyd arolwg annibynnol o'r adeilad, nad oedd wedi nodi unrhyw broblemau strwythurol sylweddol heblaw am gyflwr y to. Ni ddaeth rhai problemau strwythurol i'r amlwg hyd nes bod gwaith adnewyddu yn cael ei wneud ar ôl i rannau o'r adeilad gael eu hagor a'u harchwilio'n fanylach.
Cost ddisgwyliedig y gwaith adfer sy'n gysylltiedig â'r problemau strwythurol a nodwyd yw £4.253 miliwn. Mae'r gwaith hwn yn angenrheidiol i sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel, yn addas i'r diben ac yn gallu cefnogi ei ddefnydd hirdymor yn y dyfodol.
Cafodd y prif gontract adeiladu ei gaffael drwy Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru a'i ddyfarnu i Bouygues UK.
Roedd gan y contract a ddyfarnwyd i Bouygues UK werth cychwynnol o £27.713 miliwn.
Y gost derfynol a ragwelir ar hyn o bryd ar gyfer y prosiect yw £41.003 miliwn.
Mae'r pecyn cyllido a gymeradwywyd yn cynnwys:
- Llywodraeth y DU: £20.19 miliwn
- Llywodraeth Cymru: £9.045 miliwn
- Cyngor Sir Caerfyrddin: £11.458 miliwn
- Cyfraniadau Partner: £309,287
Cyfanswm cyllid y prosiect: £41.003 miliwn.
Mae'r Cyngor wedi rhoi cyllid ychwanegol i gefnogi cwmpas estynedig y prosiect sy'n adlewyrchu cynllun mwy sy'n ymgorffori cyfleusterau ychwanegol, darpariaeth gofal iechyd a gwelliannau eraill nad oeddent wedi'u cynnwys yn y cynnig gwreiddiol.
Ydy. Mae chwyddiant sylweddol mewn costau adeiladu ar ôl y pandemig wedi effeithio ar y prosiect, fel yn achos prosiectau eraill ar draws y sector adeiladu.
Disgwylir i'r prosiect:
- Dod ag adeilad gwag yng nghanol y dref yn ôl i ddefnydd.
- Darparu gwasanaethau gofal iechyd ychwanegol mewn lleoliad canol tref i wella hygyrchedd i bawb.
- Darparu canolfan weithgareddau a chyfleusterau adloniant i'r teulu.
- Cynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref, a thrwy hynny helpu i roi hwb i economi'r dref.
- Creu buddion economaidd a chymdeithasol ehangach i Gaerfyrddin.
Y dyddiad cwblhau disgwyliedig yw dechrau 2027.
Ydy. Cymeradwyodd y Cyngor y cais gwreiddiol i'r Gronfa Ffyniant Bro ym mis Mai 2021, cymeradwyodd gaffael yr adeilad a'r broses ailddatblygu Cam 1 ym mis Ionawr 2022, a chymeradwyodd ddyfarnu'r contract adeiladu ym mis Rhagfyr 2023.
Roedd y cais gwreiddiol yn seiliedig ar ddyluniad cysyniadol. Wrth i'r dyluniad ddatblygu ac wrth i ofynion gwasanaeth ddod yn gliriach, ehangodd y cwmpas yn sylweddol a sicrhawyd cyllid allanol ychwanegol i gefnogi'r weledigaeth ehangach honno. Felly, mae'r cynllun presennol yn wahanol i'r cysyniad gwreiddiol.
Datblygwyd y cais gwreiddiol o £19.608 miliwn i'r Gronfa Ffyniant Bro gan ddefnyddio dyluniad cysyniadol yn 2021. Wrth i'r prosiect fynd rhagddo, cynhaliwyd gwaith dylunio manwl i ddiffinio'r gwasanaethau a fyddai'n gweithredu o'r adeilad ac i ddeall gofynion preswylwyr y dyfodol. Arweiniodd hyn at gynllun llawer ehangach, gan gynnwys darpariaeth gofal iechyd ychwanegol, canolfan weithgareddau, mwy o arwynebedd llawr a gwell seilwaith adeiladu.
Yn ogystal, mae chwyddiant mewn costau adeiladu ar draws y diwydiant wedi effeithio ar y prosiect, ynghyd â phroblemau strwythurol a nodwyd yn ystod gwaith adnewyddu. O ganlyniad, mae'r cynllun sy'n cael ei gyflawni heddiw yn fwy o lawer ac yn fwy cymhleth na'r cysyniad gwreiddiol a gyflwynwyd yn 2021.
Naddo. Roedd y gyllideb wreiddiol yn adlewyrchu'r wybodaeth oedd ar gael ar y pryd, ac roedd yn seiliedig ar ddyluniad cysyniadol a gynhyrchwyd ar gyfer proses ymgeisio y Gronfa Ffyniant Bro. Fel sy'n gyffredin gyda phrosiectau cyfalaf mawr, mae costau'n dod yn fwy diffiniedig wrth ddatblygu dyluniadau a chadarnhau gofynion gwasanaeth, ond hefyd yn yr achos hwn, mae cwmpas y gwasanaethau i'w darparu yn y cyfleuster wedi ehangu.
Mae cyllid ychwanegol wedi'i sicrhau i gefnogi ystod ehangach o gyfleusterau a gwasanaethau na'r hyn a gynigiwyd yn wreiddiol.
Cyn prynu'r adeilad, comisiynodd y Cyngor arolwg annibynnol o'r adeilad, nad oedd wedi nodi unrhyw broblemau strwythurol sylweddol heblaw am gyflwr y to. Ni ddaeth rhai problemau i'r amlwg hyd nes dechrau gwaith adnewyddu ac agor rhannau o'r adeilad i'w harchwilio'n fanylach.
Nac ydy. Mae'r Cyngor wedi parhau i fonitro ac adrodd ar sefyllfa ariannol y prosiect trwy ei drefniadau llywodraethu. Mae'r gost ddisgwyliedig ar hyn o bryd yn adlewyrchu ffactorau hysbys gan gynnwys ehangu'r prosiect, gofynion gofal iechyd uwch, chwyddiant a gwaith adfer strwythurol.
Mae'r gyllideb ddiwygiedig wedi'i datblygu i adlewyrchu cwmpas llawn y prosiect sydd bellach yn cael ei gyflawni.
Mae'r pecyn cyllido presennol yn cynnwys £11.458 miliwn gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae'n bwysig cydnabod bod pryniant yr adeilad ei hun wedi'i ariannu'n gyfan gwbl trwy Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, heb ddefnyddio unrhyw gyllid gan y Cyngor i brynu'r eiddo. Mae cyfraniad presennol y Cyngor yn ymwneud â'r cynllun estynedig sydd wedi esblygu ers y cais gwreiddiol.
Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i ystyried costau a manteision unrhyw brosiect adfywio mawr. Mae Atriwm yn fuddsoddiad sylweddol yn nyfodol canol tref Caerfyrddin a bydd yn dod â chyfleusterau gofal iechyd, hamdden a chymunedol at ei gilydd mewn adeilad gwag amlwg.
Mae ffocws y Cyngor wedi bod ar sicrhau bod y prosiect yn darparu gwerth hirdymor, gan hefyd fynd i'r afael â'r heriau sydd wedi dod i'r amlwg wrth gyflawni'r gwaith.
Mae'r prosiect yn fuddsoddiad gwerth chweil. Mae'r prosiect wedi sicrhau cyllid o sawl ffynhonnell gan gynnwys Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a sefydliadau partner. Mae'r cynllun bellach yn darparu llawer mwy na'r hyn oedd wedi'i gynnwys yn y cynnig gwreiddiol, gyda darpariaeth gofal iechyd estynedig, canolfan weithgareddau, a buddion ehangach i ganol y dref.
Mae'r Cyngor o'r farn bod dod ag adeilad mawr gwag yng nghanol y dref yn ôl i ddefnydd, a chreu cyfleusterau a fydd yn gwasanaethu cymunedau am flynyddoedd i ddod, yn fuddsoddiad hirdymor sylweddol yn Sir Gaerfyrddin.
Bydd pobl leol yn elwa ar ddarpariaeth gofal iechyd ychwanegol yng nghanol y dref, mynediad at gyfleusterau canolfan weithgareddau newydd, ac adfywio adeilad gwag mawr yng nghanol Caerfyrddin. Bwriad y prosiect hefyd yw denu mwy o ymwelwyr a chefnogi gweithgarwch economaidd ehangach yng nghanol y dref.
Y dyddiad cwblhau disgwyliedig ar hyn o bryd yw dechrau 2027. Mae'r gwaith adeiladu yn parhau i symud ymlaen tuag at y targed hwnnw.
Rhaid i unrhyw benderfyniad ynghylch prosiect cyfalaf mawr ystyried y gwaith sydd eisoes wedi'i gwblhau, ymrwymiadau i gontractau, trefniadau cyllido a manteision disgwyliedig y prosiect. Ffocws presennol y Cyngor yw cwblhau'r prosiect a sicrhau bod preswylwyr yn elwa ar y manteision hirdymor y bwriedir i'r datblygiad eu darparu.
Y pwynt pwysig yw nad yr un yw'r prosiect sy'n cael ei gyflwyno heddiw â'r un a ragwelwyd yn wreiddiol yn 2021. Mae'n gynllun mwy o faint, mwy uchelgeisiol, wedi'i gefnogi gan gyllid allanol ychwanegol, ac wedi'i gynllunio i ddarparu buddion mwy o lawer i Gaerfyrddin a'r sir ehangach.
Mae Atriwm wedi newid yn sylweddol ers y cysyniad gwreiddiol. Cafodd yr adeilad ei brynu gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth y DU, mae cyllid allanol ychwanegol wedi'i sicrhau ers hynny, a bydd y cynllun bellach yn darparu ystod llawer ehangach o gyfleusterau gofal iechyd, hamdden a chymunedol nag a ragwelwyd yn wreiddiol. Er bod heriau wedi dod i'r amlwg yn ystod y gwaith, y nod o hyd yw creu ased canol tref sylweddol, a fydd yn gwasanaethu cymunedau ledled Sir Gaerfyrddin am ddegawdau i ddod.