Llanybydder

Tref farchnad fach yw Llanybydder sydd wedi’i lleoli ar gyrion gogleddol Sir Gaerfyrddin yn nyffryn Teifi, ac mae’n gwasanaethu cymuned wledig helaeth ar ddwy ochr yr afon sy’n cynnwys Pencarreg, Llanllwni, Highmead ac Alltyblaca.

Mae’r economi’n seiliedig yn bennaf ar y sector amaethyddol a phrif fusnesau’r dref yw’r farchnad da byw a’i chyflogwr mawr, Dunbia (prosesu cig). Saif Llanybydder ar yr A485 sy’n cysylltu’r dref â Chaerfyrddin er mai’r ganolfan agosaf ati yw Llanbedr Pont Steffan i’r gogledd-ddwyrain (5 milltir) sy’n gweithredu’n lleol fel y brif ganolfan o ran cyflogaeth, siopau a gwasanaethau.

Nodweddir Llanybydder gan ardal fach yn y canol ar gyfer manwerthu sy’n darparu ar gyfer anghenion siopa, masnach a gwasanaethau’r gymuned wledig o ddydd i ddydd. Y tu allan i’r dref, mae’r ardal yn cefnogi amrywiaeth helaeth o ddiwydiannau seiliedig ar amaethyddiaeth a’r tir, peirianwyr, adeiladwyr a gweithgynhyrchwyr. Mae sawl enghraifft o fusnesau bwyd a diod, a thwristiaeth, ynghyd â busnesau proffesiynol a ffordd o fyw. Mae Llanybydder yn cyflawni swyddogaeth leol bwysig o ran siopau a gwasanaethau, yn gymdeithasol, ac o safbwynt cyflogaeth ac addysg i’r ardal wledig ehangach gan gynnwys yr aneddiadau o’i gwmpas.

Dargangod Llanybydder

Prosiect Deg Tref

 

Mae'r Hen Ysgol yn Llanybydder yn rhan allweddol o brosiect y Deg Tref. Mae'r hen ysgol gynradd hon bellach yn cynnwys campfa gymunedol yn y cefn, ond mae'r rhan flaen yn parhau i fod mewn cyflwr gwael.

Mae'r ailddatblygiad presennol yn canolbwyntio ar greu caffi a gofod amlddefnydd ar gyfer busnesau a digwyddiadau llesiant, a disgwylir i'r gwaith ddod i ben erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Cafodd y prosiect gymorth hefyd gan y gronfa economi gylchol i sefydlu caffi atgyweirio, mewn adeiladau allanol i ddechrau, cyn symud i'r ganolfan sydd newydd ei hailddatblygu.

 

 

 

 

Adfywio Canol Trefi Gwledig

 

Dywedodd perchnogion busnesau lleol fod angen cymorth i fywiogi y tu allan i'w heiddo.

Crëwyd cronfa grantiau bwrpasol i gefnogi'r gweithgarwch hwn gyda sawl adeilad stryd fawr yn Llanybydder.

Hwb